Cyflwyno cais am gopi o dystysgrif priodas a thalu amdani ar-lein
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i ofyn am gopi o dystysgrif priodas.
Bydd ceisiadau am dystysgrifau yn cael eu prosesu o fewn 15 niwrnod gwaith. Pris y dystysgrif yw £12.50 fesul dystysgrif. Gallwn ei ddanfon atoch trwy post ail ddosbarth. Am ein gwasanaeth flaenoriaeth, anelwn i gael y tystysgrif yn barod o fewn 24 awr. Y ffi yw £38.50 fesul tystysgrif. Gallwn ei ddanfon atoch drwy post dosbarth cyntaf neu gallwn rhoi gwybod i chi pan fydd yn barod i'w gasglu.
Sylwer os buoch yn briod mewn eglwys, capel neu adeilad grefyddol yn Abertawe bydd y cofnod priodas dim ond gyda ni os yw gofrestr yr eglwys wedi ei lenwi a'i dosbarthu i ni. Os nad yw'r cofnod gennym, byddwn yn eich hysbysu ac yn trefnu ad-daliad o'r ffi. Dylech wedyn cysylltu â'r eglwys neu y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol am gopi o'r dystysgrif.
I gael copi o dystysgrif priodas mae'n rhaid i chi ddweud wrthym
- enwau'r ddau berson yn y briodas
- dyddiad a lleoliad y briodas.