Cais am drwydded triniaeth arbennig (Person)
Cyn i chi lenwi'r ffurflen triniaethau arbennig
Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch i gwblhau'r ffurflen hon. Dylech wneud yn siŵr bod gennych yr holl eitemau canlynol cyn eich bod yn dechrau llenwi'r ffurflen.
1. Tystysgrif Datgeliad Sylfaenol wedi'i dyddio o fewn y 3 mis diwethaf NEU dystysgrif cofnod troseddol dramor.
Gallwch wneud cais am wiriad GDG sylfaenol ar wefan Gov.uk (Yn agor ffenestr newydd). Mae'r ffurflen gais ar-lein a bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes gennych un eisoes. Bydd angen i chi hefyd brofi'ch hunaniaeth fel rhan o'r cais ac efallai y bydd angen i chi lanlwytho ffurf adnabod. Cost gwiriad GDG sylfaenol yw £18.00.
Mae'n rhaid i ymgeisydd nad yw'n gymwys am dystysgrif datgeliad sylfaenol gael tystysgrif cofnod troseddol dramor. Mae'r broses ymgeisio ar gyfer gwiriadau cofnod troseddol ar gyfer ymgeisydd tramor yn amrywio o wlad i wlad. Gall fod angen i ymgeisydd wneud cais yn y wlad, neu i'r llysgenhadaeth berthnasol yn y DU. Ewch i https://www.gov.uk/government/publications/criminal-records-checks-for-overseas-applicants am arweiniad pellach.
2. Copi o'ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
3. Copi o'ch Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i ennill y cymhwyster hwn yn nodyn cyfarwyddyd 15.
4. Copi o'ch dogfennau adnabod. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y dogfennau adnabod sydd eu hangen arnoch yn nodyn cyfarwyddyd 16.
5. Llun lliw diweddar o'r ymgeisydd. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn nodyn cyfarwyddyd 17.
6. Dull talu i dalu eich ffi ar-lein. Gallwn dderbyn taliadau â cherdyn credyd a cherdyn debyd (Visa, Mastercard, Maestro, Electron) drwy'r ffurflen hon. Ni allwn dderbyn taliadau arian parod.