Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Os ydych yn gweithio mewn busnes, sy'n tyllu croen, mae'n rhaid bod trwydded gennych.
Mae'r gyfraith yn newid. O 29 Tachwedd 2024 ymlaen, bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ymarferwyr sy'n cyflawni unrhyw weithdrefn arbennig ar rywun arall yng Nghymru fod yn drwyddedig a bydd angen i mangreoedd/cerbydau y mae ymarferwyr triniaethau arbennig yn gweithredu ohonynt gael eu cymeradwyo.
Mae'r drwydded yn cynnwys aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio.
Mae'n rhaid bod gan bob ymarferydd ei drwydded triniaeth arbennig ei hun a fydd yn cadarnhau'r driniaeth/triniaethau y mae ganddo drwydded bersonol i'w rhoi.
Mae'n rhaid bod gan bob mangre neu gerbyd busnes triniaethau arbennig ei thystysgrif/ei dystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd ei hun.
Bydd rhaid i'r holl ymarferwyr sy'n gyfrifol am eu cerbyd/mangre eu hunain gael trwydded triniaethau arbennig (ar gyfer eu hunain) a thystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd (ar gyfer y fangre/cerbyd).
Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r tîm Bwyd a Diogelwch.
Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk.