Rhowch wybod i ni am eich digwyddiad arfaethedig ar dir preifat yn Abertawe
Dylech lenwi'r ffurflen hon er mwyn hysbysu'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch o'ch bwriad i gynnal digwyddiad sy'n cynnwys nifer mawr o bobl ar dir preifat yn Abertawe.
Cyn i chi gwblhau'r ffurflen hon gwiriwch fod gennych y manylion canlynol. Byddwch yn derbyn y cyfle i lanlwytho unrhyw ddogfennau ategol fel rhan o'r cais. Sicrhewch fod y rhain wedi'u storio ar eich cyfrifiadur ar ffurf ffeil electronig neu gopi wedi'i sganio.
- Os ydych yn defnyddio tir sy'n eiddo i rywun arall dylech lanlwytho cadarnhad ysgrifenedig gan berchennog y tir sy'n datgan bod caniatâd wedi'i roi i gynnal y digwyddiad.
- Os oes gan drefnwyr y digwyddiad unrhyw brofiad blaenorol o drefnu digwyddiad, darparwch eirdaon.
- Oes bydd gweithgareddau trwyddedadwy yn cael eu cynnal e.e. gwerthu neu ddarparu alcohol, adloniant rheoledig (cerddoriaeth, dawnsio, ffilmiau, dramâu, digwyddiadau chwaraeon dan do), lluniaeth gyda'r hwyr (bwyd poeth neu ddiod rhwng 11.00pm a 5.00am) mae'n rhaid ymgeisio am Hysbysiadau digwyddiad dros dro (TEN). Dylai hyn fod o leiaf 10 niwrnod cyn y digwyddiad.
- Dylai fod gennych yswiriant ar gyfer y digwyddiad.
- Dylech wneud asesiad risg llawn ar gyfer y digwyddiad sy'n amlygu'r holl beryglon posib a mesurau diogelwch lliniarol. Rhaid darparu copi o'r asesiad risg hwn gyda'ch cais.