Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Cyflwyno cais am drwydded i agor llety i anifeiliaid yn eich cartref

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i agor gwasanaeth lletya/gofalu am gŵn yn eich cartref.

Mae'n rhaid i chi lenwi'r ffurflen gais yn llawn. Bydd angen i chi dalu'r ffi ymgeisio wrth gyflwyno'ch ffurflen.

Fel rhan o'ch cais mae angen i chi lanlwytho dogfennau. Sicrhewch eich bod chi'n cwblhau'r rhain ac yn eu cadw ar eich dyfais cyn llenwi'r ffurflen gais.

  • Cynllun y tŷ - Darparwch gynllun manwl o'ch eiddo gan ddangos pob ystafell sydd ynddo. Dylech nodi pa ystafelloedd a ddefnyddir i letya cŵn a pha ystafell a ddefnyddir i arwahanu cŵn. Nid oes rhaid i'r cynllun fod i raddfa.
  • Asesiad risg os oes gennych blant yn iau nag 16 oed yn y fangre - Dylech nodi'r risgiau o ran plant yn y tŷ a lletya cŵn. Er enghraifft, ni ddylid gadael plant ar eu pennau eu hunain gyda'r cŵn, ni ddylai plant fwydo'r cŵn, etc. Os bydd unrhyw un o'r rhain yn digwydd a bod plentyn yn risg, beth yw eich ataliaeth a'ch canlyniad.
  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus - Dylai hyn gwmpasu cyfnod llawn y drwydded, er enghraifft o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2024