Cais am ganiatâd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i gyflwyno cais am ganiatâd i ddefnyddio llain masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas. Bydd rhaid i chi dalu ffïoedd y mis cyntaf wrth gyflwyno'r cais hwn.
Cyn i chi gwblhau'r ffurflen hon, sicrhewch eich bod wedi darllen y nodiadau arweiniol.
Fel rhan o'ch cais, byddwch yn gallu lanlwytho dogfennau ategol. Mae'n rhaid i chi gadw'r dogfennau hyn ar eich cyfrifiadur cyn i chi eu lanlwytho.
- ffotograff o'r stondin, cerbyd etc a ddefnyddir fel rhan o'ch busnes (ar gyfer ceisiadau newydd yn unig)
- ffotograffau o'r cynnyrch/gwasanaeth rydych yn bwriadu eu gwerthu
- dau ffotograff maint pasbort o'r holl ymgeiswyr a'r cynorthwywyr.
- copi o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, lleiafswm o £5 miliwn o sicrwydd yswiriant
- ffurflen Debyd Uniongyrchol wedi'i llenwi. Dylech lawrlwytho'r ffurflen debyd uniongyrchol (Word doc, 41 KB), cwblhau'r manylion a chadw'r ffurflen wedi'i chwblhau ar eich cyfrifiadur. Byddwch yn gallu lanlwytho'r ffurflen wedi'i llenwi fel rhan o'r cais hwn.
- gwiriad GDG sylfaenol o wefan Gov.uk (ar gyfer ceisiadau newydd yn unig) Bydd angen i chi wneud cais i ofyn am wiriad GDG sylfaenol (Yn agor ffenestr newydd) cyn cyflwyno cais am drwydded masnachu ar y stryd.
- asesiad risg diogelwch tân. Dylech lawrlwytho'r asesiad risg diogelwch tân (Word doc, 32 KB), cwblhau'r manylion a chadw'r ffurflen wedi'i chwblhau ar eich cyfrifiadur. Byddwch yn gallu lanlwytho'r ffurflen wedi'i llenwi fel rhan o'r cais hwn.