Toglo gwelededd dewislen symudol

Masnachu ar y stryd

Ystyr masnachu ar y stryd yw gwerthu neu gynnig gwerthu unrhyw eitem ar y stryd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ffordd, llwybr, traeth neu fan arall y mae gan y cyhoedd fynediad rhydd iddo.

In partnership with EUGO logo
Mae angen Caniatâd Masnachu ar y Stryd i fasnachu ym mhob stryd yn Abertawe. Mae dwy ardal fasnachu benodedig yn Abertawe, y parth mewnol sy'n cynnwys canol y ddinas a'r parth allanol sy'n cynnwys yr holl dir cyhoeddus a phreifat yn yr awdurdod lleol y tu allan i ganol y ddinas.

Ble gallwch chi fasnachu ym mharth mewnol canol y ddinas?

Mae gan barth mewnol canol y ddinas leiniau sefydledig a ddynodwyd gan Dîm Rheolaeth Canol y Ddinas. Ar hyn o bryd mae 11 o leiniau dynodedig ac rydych yn gallu gweithio o lain gyda chaniatâd.

Ble gallwch chi fasnachu yn y parth allanol (yr holl ardaloedd eraill y tu allan i ganol y ddinas)?

Mae'r parth allanol yn cynnwys yr holl dir cyhoeddus a phreifat y tu allan i ganol y ddinas. Nid oes unrhyw leiniau dynodedig yn y parth allanol y gallwch weithio ohonynt naill ai fel masnachwr symudol neu o safle gyda chaniatâd.

Masnachu ym mharth mewnol canol y ddinas

Mae gan barth mewnol canol y ddinas leiniau sefydledig a ddynodwyd gan Dîm Rheolaeth Canol y Ddinas. Mae 11 o leiniau dynodedig ar hyn o bryd.

Cais am ganiatâd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i gyflwyno cais am ganiatâd i ddefnyddio llain masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas. Bydd rhaid i chi dalu ffïoedd y mis cyntaf wrth gyflwyno'r cais hwn.

Ffioedd masnachu ar y stryd yng nghanol y ddinas

Manylion y costau ar gyfer trwydded masnachu ar y stryd ym mhob un o'r lleiniau yng nghanol y ddinas.

Masnachu yn y parth allanol

Mae'r holl barth allanol ar dir cyhoeddus a phreifat y tu allan i ganol y ddinas.

Cais am ganiatâd masnachu ar y stryd ar gyfer y parth allanol

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i gyflwyno cais am ganiatâd i ddefnyddio llain masnachu ar y stryd mewn ardal y tu allan i ganol y ddinas. Bydd rhaid i chi dalu ffïoedd y mis cyntaf wrth gyflwyno'r cais hwn.

Ffioedd ar gyfer trwyddedau masnachu ar strydoedd y parth allanol

Manylion y costau am drwydded masnachu ar y stryd ar gyfer yr holl leiniau yn y parth allanol.

Cofrestru bwyd ar gyfer masnachwyr ar y stryd

Os ydych yn gwerthu bwyd, mae angen i chi gofrestru'ch cerbyd teithiol gyda'r awdurdod lleol lle mae'r cerbyd yn cael ei gadw pan nad yw'n cael ei ddefnyddio.

Masnachu ar y Stryd mewn ffair, carnifalau a digwyddiadau

Rhaid i bob masnachwr sy'n dymuno masnachu mewn unrhyw ffair, carnifal neu ddigwyddiad sydd am ddim i'r cyhoedd wneud cais am ganiatâd masnachu ar y stryd er mwyn masnachu.

Ceir yn cael eu gwerthu wrth ochr y ffordd

Ystyrir gwerthu car ar ochr y ffordd yn Abertawe fel masnachu ar y stryd ac mae'n rhaid i chi gael caniatâd cyn gwneud hynny.
Close Dewis iaith