Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am drwydded i storio ffrwydron (gan gynnwys tan gwyllt)

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am drwydded storio newydd neu i adnewyddu trwydded gyfredol i storio tân gwyllt a ffrwydron.

Fel rhan o'ch cais bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • cynllun i raddfa sy'n dangos lleoliad y safle mewn perthynas â'i amgylchiadau (h.y. ffyrdd, pentrefannau, pentrefi neu nodweddion daearyddol wedi'u henwi neu'u rhifo). Lle nad oes gan y safle gyfeiriad post dylai hwn fod yn lleiafswm graddfa o 1:25000 fel rheol.

  • os yw'r storfa yn amodol ar gael pellteroedd gwahanu, bydd hefyd angen darparu cynllun safle map ordnans (neu debyg) sy'n dangos lleoliad y storfa a'r pellter o unrhyw adeiladau cyfagos.  Dylai'r cynllun hefyd ddangos y mannau lle rydych yn bwriadu prosesu neu gynhyrchu ffrwydron lle nad oes angen trwydded ar gyfer y gweithgareddau hynny o dan rheoliad 6 Rheoliadau Ffrwydron 2014 (Yn agor ffenestr newydd). Bydd y raddfa yn ddibynnol ar y pellter gwahanu. Am bellter o hyd at 200 metr, gofynnir am bellter o 1:1250 fel rheol, lle bydd pellter mwy yn gofyn am 1:2500 neu 'Cynllun Mwy' hyd yn oed. Lle mae'r cynllun hwn yn nodi'r lleoliad yn glir o ran ei amgylchiadau, gall gael ei amnewid am y cynllun y cyfeiriwyd ato yn rhif 6 uchod. 

  • os ydych yn bwriadu cadw neu arddangos mwy na 12.5kg o dân gwyllt mewn siop, bydd yr awdurdod trwyddedu yn gofyn i chi gyflwyno cynllun llawr y siop.

  • os ydych yn bwriadu storio, prosesu neu gynhyrchu ffrwydron mewn adeilad sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion eraill bydd angen cynnwys cynllun llawr sy'n dangos y mannau o fewn yr adeilad lle rydych yn bwriadu storio, prosesu neu gynhyrchu'r ffrwydron.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Chwefror 2024