Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth sy'n cael ei wneud am ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Rydym yn gweithredu yn unol â Phartneriaeth Abertawe Mwy Diogel i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws ardal Abertawe.

Pa rymoedd sydd gan y cyngor i ddelio â YG?

Darparwyd offer ychwanegol gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys:

Yn ogystal â:

  • Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
  • Gorchmynion Llys Ildio Meddiant

Cofiwch y bydd angen safon uchel o dystiolaeth ar unrhyw achos i'w ddwyn o flaen llys er mwyn iddo fod yn llwyddiannus.

Gwaharddebion sifil

Pŵer sifil yw'r waharddeb o dan Ran 1 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 y gellir ei ddefnyddio i ymdrin ag unigolion gwrthgymdeithasol. Gall y waharddeb amddiffyn dioddefwyr a chymunedau'n gyflym ac yn effeithiol ynghyd â gosod safon ymddygiad glir ar gyfer troseddwyr, gan atal ymddygiad y person rhag gwaethygu. 

Yn achos ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cyd-destun nad yw'n gysylltiedig â thai, y prawf yw ymddygiad sydd wedi achosi aflonyddwch, braw neu ofid i unrhyw berson, neu sy'n debygol o wneud hynny. Bydd hwn yn berthnasol, er enghraifft, pan fydd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi digwydd mewn man cyhoeddus, megis tref neu ganol dinas, canolfan siopa, neu barc lleol a lle nad yw'r ymddygiad yn effeithio ar swyddogaethau rheoli tai landlord cymdeithasol neu bobl yn eu cartrefi.

Gall llys roi'r waharddeb yn erbyn unrhyw un sy'n 10 oed neu'n hŷn. Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau yn erbyn unigolion sy'n 18 oed neu'n hŷn yn y llys sirol neu'r Uchel Lys, ond mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau yn erbyn unigolion dan 18 oed yn y llys ieuenctid.

Gellir defnyddio'r waharddeb i ymdrin ag amrywiaeth eang o ymddygiadau, y gall llawer ohonynt achosi niwed difrifol i ddioddefwyr a chymunedau mewn sefyllfaoedd tai a sefyllfaoedd nad ydynt yn gysylltiedig â thai. Gall hyn gynnwys fandaliaeth, meddwdod cyhoeddus, cardota ymosodol, bod yn berchennog anghyfrifol am gi, ymddygiad swnllyd neu ddifrïol tuag at gymdogion neu fwlio. 

Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned

Bwriad hysbysiad gwarchod y gymuned yw ymdrin â phroblemau neu niwsans parhaus penodol sy'n effeithio'n negyddol ar ansawdd bywyd y gymuned drwy glustnodi'r rhai sy'n gyfrifol. Gall yr heddlu neu'r awdurdod lleol roi hysbysiad gwarchod y gymuned yn erbyn unrhyw berson sy'n 16 oed neu'n hŷn neu yn erbyn corff, gan gynnwys busnes. 

Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

Bwriad Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) yw ymdrin â niwsans neu broblem benodol, mewn ardal benodol, sy'n effeithio'n niweidiol ar ansawdd bywyd cymuned lleol drwy osod amodau ar ddefnydd yr ardal honno sy'n berthnasol i bawb. Maent wedi cael eu dylunio i sicrhau bod mwyafrif y bobl, sy'n parchu'r gyfraith, yn gallu defnyddio a mwynhau mannau cyhoeddus heb ddioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gall y cyngor roi PSPO os yw wedi'i argyhoeddi'n rhesymol bod y gweithgareddau a gaiff eu cynnal, neu sy'n debygol o gael eu cynnal, mewn man cyhoeddus: 

  • wedi effeithio'n andwyol, neu'n debygol o effeithio'n andwyol, ar ansawdd bywyd y rheiny yn yr ardal; 
  • yn barhaus, neu'n debygol o fod yn barhaus; 
  • yn afresymol, neu'n debygol o fod yn afresymol; ac 
  • yn cyfiawnhau'r cyfyngiadau a osodir.

Gall y cyngor osod PSPO ar unrhyw fan cyhoeddus yn ei ardal ei hun. Mae diffiniad man cyhoeddus yn eang ac yn cynnwys unrhyw fan lle caiff y cyhoedd, neu ran o'r cyhoedd, fynediad ato, drwy dalu neu fel arall, fel mater o hawl neu yn rhinwedd caniatâd clir neu ymhlyg, fel canolfan siopa, er enghraifft.

Cyn iddo gyflwyno PSPO, byddai'r cyngor yn ymgynghori â'r heddlu lleol a pha gynrychiolwyr cymunedol bynnag yr ystyrir eu bod yn addas. Gall hyn fod yn berthnasol i grŵp penodol, fel cymdeithas y preswylwyr er enghraifft, neu i unigolyn neu grŵp o unigolion, megis defnyddwyr rheolaidd parc neu weithgareddau penodol megis clera a mathau eraill o adloniant ar y stryd. Cyn cyflwyno PSPO, bydd y cyngor yn cyhoeddi gorchymyn drafft yn unol â rheoliadau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Dylunnir PSPO i wneud mannau cyhoeddus yn fwy croesawgar i'r mwyafrif o bobl a chymunedau sy'n parchu'r gyfraith, yn hytrach nag i gyfyngu ar fynediad yn unig. Gellir targedu cyfyngiadau neu ofynion eraill at bobl benodol, drwy eu dylunio i fod yn gymwys ar adegau penodol neu mewn amgylchiadau penodol yn unig. Hyd mwyaf PSPO yw tair blynedd ond gallant bara am gyfnodau byrrach lle bo'n briodol. 

Ar unrhyw adeg cyn y dyddiad dod i ben, gall y cyngor ymestyn PSPO hyd at dair blynedd os ystyriwn fod hyn yn angenrheidiol i atal yr ymddygiad gwreiddiol rhag digwydd neu ailddigwydd.

Gorchmynion Ymddygiad Troseddol

Mae'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol ar gael os bydd euogfarn mewn perthynas ag unrhyw drosedd mewn unrhyw lys troseddol. Nod y gorchymyn yw ymdrin â'r troseddwyr mwyaf difrifol a chyson lle bydd eu hymddygiad wedi mynd â hwy gerbron llys troseddol. 

Gall yr erlyniad, sef Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) fel arfer ond gall hyn olygu cyngor lleol mewn rhai achosion, gyflwyno cais am y Gorchymyn Ymddygiad Troseddol ar ôl i'r troseddwr gael ei euogfarnu o drosedd.

 

Contract meddiannaeth landlord - ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig

Hoffem sicrhau preswylwyr sy'n rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein stadau tai y bydd cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu cymryd o ddifrif ac yr ymchwilir iddynt yn llawn. Bydd y rheini sy'n adrodd am ddigwyddiadau yn:

  • derbyn cyngor a chymorth
  • derbyn diweddariad mewn perthynas â'r broses ymchwilio
  • cael eu disgwyliadau wedi'u rheoli mewn ffordd realistig o ran canlyniadau tebygol
  • cael gwybod am ganlyniad eu cwyn yn y pen draw
  • cael cyfle i roi adborth

Nod ein gwasanaeth tai yw helpu pobl i gynnal eu tenantiaethau a helpu i ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd i deuluoedd a chymunedau. Byddwn yn ceisio helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn helpu i gefnogi cydlyniant cymunedol ar draws stadau.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau cyngor

 

Partneriaeth Abertawe mwy diogel a gweithdrefnau ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae'r Uned Gwasanaeth Tai hefyd yn chwarae rôl ragweithiol ym Mhartneriaeth Abertawe Mwy Diogel sydd wedi'i ffurfio o asiantaethau sy'n cydweithio i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe.

Sefydlwyd Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel o ganlyniad i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a roddodd gydgyfrifoldeb statudol ar y Cyngor a'r heddlu i sefydlu partneriaeth lleihau trosedd ac anhrefn. Mae'r ddyletswydd newydd wedi'i chreu er mwyn annog cymunedau lleol i gymryd rhan mewn dyfeisio atebion, yn ogystal â nodi problemau lleol. Mae'r heddlu'n trefnu cyfarfodydd PACT (Partneriaeth a Chymunedau Gyda'i Gilydd) y gall swyddogion tai yn eich ardal leol eu mynychu. Hysbysebir y cyfarfodydd hyn yn lleol ac maent yn caniatáu i breswylwyr leisio'u pryderon am faterion o bwys iddynt, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gall partneriaid, gan gynnwys swyddfeydd gwerthu tai a'r heddlu, gyfeirio digwyddiadau sy'n destun ymchwil at Dîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Bartneriaeth. Hefyd, mae gan y Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gynllun 4 cam ar gyfer mynd i'r afael â phobl sydd wedi bod yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

Y cynllun 4 cam

  1. Mae cam un yn cynnwys anfon llythyr rhybuddio, a galw ar yr unigolyn i atal yr ymddygiad.
  2. Caiff cam dau ei gymryd os bydd y broblem yn parhau a bydd hwn yn cynnwys llythyr dilynol ac ymweliad â'r cartref gan aelodau'r Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.  Nod yr ymweliad hwn fydd nodi a mynd i'r afael â phroblemau - megis anawsterau yn y teulu neu'r ysgol - a allai fod wrth wraidd yr ymddygiad.
  3. Bydd cam tri'n digwydd os ceir trydydd atgyfeiriad ac os nad yw'r unigolyn wedi ymgysylltu â'r broses.  Caiff cynhadledd achos ei chynnal, gan dynnu'r holl asiantaethau perthnasol ynghyd, i weithio gyda'r unigolyn i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen. Gallai hyn arwain at lunio contract ymddygiad derbyniol, y gofynnir i'r unigolyn, yn ogystal â'r rhieni os oes angen, ei lofnodi.
  4. Gall cam 4 olygu mynd at y Llys Ynadon i ofyn am waharddeb sifil.

Yn gyffredinol ni fydd cŵyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn arwain at waharddeb gan y rhoddir cynnig ar ddulliau ataliol bob amser a bydd gwaharddeb yn cael ei chyflwyno fel dewis olaf yn yr achosion mwyaf difrifol a pharhaus yn unig.

 

Gwaharddebau i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ar wahân i waharddebau, mae'r ynadon yn gallu cyflwyno amrywiaeth o orchmynion er mwyn mynd i'r afael ag amrywiaeth eang o broblemau. Ar y cyd â defnyddio pwerau cyfreithiol, bydd Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc i ddarparu gweithgareddau sy'n hybu ymddygiad cadarnhaol.