Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw pan fydd rhywun neu grwpiau o bobl yn ymddwyn mewn ffordd sy'n achosi aflonyddwch, braw neu ofid i eraill.
Diffiniad y gyfraith o ymddygiad gwrthgymdeithasol yw:
'Sefyllfa lle mae rhywun wedi ymddwyn mewn modd a oedd yn achosi neu a oedd yn debygol o achosi aflonyddwch, braw neu ofid i rywun neu rywrai nad yw/ydynt yn byw yn yr un cartref ag ef/hi. Mae'r math hwn o ymddygiad yn cynnwys ymddygiad afreolus a meddw, tipio anghyfreithlon, graffiti, iaith fygythiol ac ymosodol, trais yn y cartref a llawer o fathau eraill o ymddygiad sy'n atal eraill rhag mwynhau bywyd arferol.'
Mae llawer o fathau gwahanol o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a weithiau gall anghydfodau cymharol fach rhwng cymdogion ddwysáu'n ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys:
- aflonyddu: troseddau casineb, camdriniaeth eiriol, bwlio
- swn: anifeiliaid megis cwn yn cyfarth, larymau car ac eiddo, swn setiau teledu / stereos yn rhy uchel, tân gwyllt, partïon a cherddoriaeth uchel, DIY, rhedeg busnes o'r cartref
- parcio: cerbydau wedi'u gadael, rhwystrau, parcio peryglus, carafanau neu gerbydau nwyddau trwm
- niwsans: grwpiau'n ymgasglu, fandaliaeth, graffiti, tân gwyllt, dwyn ceir / beiciau, aflonyddu
- defnyddio a gwerthu sylweddau anghyfreithlon fel cyffuriau
- mathau eraill: tipio anghyfreithlon, gerddi wedi'u hesgeuluso a gordyfiant, baw cwn, anifeiliaid yn crwydro
Beth nad yw'n ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Gall rhai gweithredoedd beri poendod ond nid ydynt yn cael eu hystyried yn wrthgymdeithasol oni bai eu bod yn digwydd yn gyson neu'n dwysáu i fathau eraill o niwsans.
- swn plant yn chwarae
- gwahaniaethau personol
- swn byw arferol megis drysau'n cau'n glep, tynnu dŵr toiledau etc.
Beth gallwch ei wneud amdano?
Gallwch roi gwybod am y digwyddiad i'r awdurdod perthnasol:
- yr heddlu am faterion troseddol
- Anifeiliaid, plâu a llygredd
- Cerbydau wedi'u gadael
- Biniau, sbwriel a thipio anghyfreithlon
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau cyngor
Gallwch hefyd gymryd camau cyfreithiol preifat.