Toglo gwelededd dewislen symudol

Camfanteisio'n rhywiol ar blant

Camfanteisio'n rhywiol ar blant yn cam-drin plant.

Os ydych yn gofidio bod plentyn mewn peryg, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

I roi gwybod am eich pryderon, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdeithasol Un pwynt cyswllt (UPC)

Mewn argyfwng, cysylltwch â'r heddlu ar 101 neu ffoniwch 999.

 

Beth yw camfanteisio'n rhywiol ar blant?

Gorfodi neu gymell plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol ydyw.

Mae'n fath o gamdriniaeth rywiol sy'n ymwneud â chyfnewid taliad o ryw fath, a allai gynnwys: arian, ffonau symudol ac eitemau eraill, cyffuriau, alcohol, rhywle i aros, 'diogelwch' neu serch.

Mae cyfuniad o'r ffaith fod person ifanc yn ddiamddiffyn a'r broses baratoi a ddefnyddir gan y tramgwyddwyr yn ei gwneud hi'n anodd i'r person ifanc wybod natur ecsbloetio perthnasoedd ac ni allant roi caniatâd gwybodus.

Nid yw plant na phobl ifanc yn gwirfoddoli i eraill gam-fanteisio'n rhywiol arnynt ac ni allant gydsynio i gael eu cam-drin. Mae hyn yn berthnasol gymaint i bobl ifanc 16 ac 17 oed ac y mae i blant iau. Gall ddigwydd i ferched a bechgyn.

Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant Ar-lein yw lle mae troseddwyr yn twyllo, yn gorfodi ac yn cymell plant i lunio neu rannu delweddau anweddus o'u hunain neu gymryd rhan mewn sgwrs neu weithgaredd rhywiol dros wegamera/âu. Fodd bynnag, gall Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant Ar-lein arwain y troseddwr at gwrdd â phlentyn yn y 'byd go iawn' i ymgymryd â gweithgareddau rhywiol; gelwir hyn weithiau'n droseddau oddi ar y lein.

 

SYLWCH ARNO!

Arwyddion posib o gamfanteisio'n rhywiol ar blant

Felly mae'n bwysig y gall unrhyw un weld yr arwyddion posib bod rhywun yn cam-fanteisio'n rhywiol ar blentyn, neu mewn perygl o hynny.  

Mae arwyddion arwyddocaol yn cynnwys:

  • cyfnodau o fynd ar goll dros nos neu am gyfnodau hirach
  • cariad hŷn/perthynas ag oedolyn sy'n rheoli
  • camdriniaeth gorfforol/emosiynol gan y 'cariad'/oedolyn hwnnw
  • mynd i mewn i gerbydau sy'n cael eu gyrru gan oedolion anhysbys, neu eu gadael
  • symiau o arian, dillad drud neu eitemau eraill heb esboniad
  • bod yn fynych mewn ardaloedd sy'n hysbys am gam-fanteisio rhywiol ar y stryd neu oddi  arni
  • anaf corfforol heb esboniad credadwy
  • datgelu ymosodiad rhywiol/corfforol ac yna tynnu'r honiad yn ôl
  • cyfoedion yn ymwneud â chlipio (derbyn tâl am gytuno i berfformio gweithredoedd rhywiol, ond peidio â pherfformio'r weithred rywiol)/cam-fanteisio rhywiol.

Mae arwyddion eraill yn cynnwys:

  • aros allan yn hwyr
  • nifer o alwadau ffôn (oedolion/pobl ifanc hŷn anhysbys)
  • defnydd o ffôn symudol sy'n peri pryder
  • mynegi anobaith (hunan-niweidio, gorddos, anhwylder bwyta, ymddygiad heriol/ymosodol)
  • heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
  • cam-drin cyffuriau
  • camddefnyddio alcohol
  • defnydd o'r rhyngrwyd sy'n peri pryder
  • llety anaddas/amhriodol (gan gynnwys digartrefedd ar y stryd)
  • ynysu o gyfoedion/rhwydweithiau cymdeithasol
  • diffyg perthynas gadarnhaol ag oedolyn gwarchodol/gofalgar
  • gwahardd o'r ysgol neu absenoldebau heb esboniad o'r ysgol, neu ddim yn cyfranogi yn yr ysgol/coleg/hyfforddiant
  • byw yn annibynnol a methu ymateb i ymdrechion gan weithiwr cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad.

Efallai na fydd plant a phobl ifanc yn cydnabod bod rhywun yn cam-fanteisio arnynt yn rhywiol neu hyd yn oed os ydynt yn sylweddoli'r hyn sy'n digwydd, efallai na fyddant yn teimlo eu bod yn gallu dweud wrth unrhyw un.

 

RHOWCH WYBOD AMDANO!

Os ydych yn bryderus fod plentyn mewn perygl uniongyrchol o niwed drwy gam-fanteisio rhywiol:

  • Ffoniwch yr HEDDLU ar 999.

Os ydych yn bryderus fod plentyn mewn perygl o gam-fanteisio rhywiol neu ei fod yn cael ei ecsbloetio:

  • Yn y gweithle, siaradwch â'ch prif weithiwr proffesiynol dros amddiffyn plant os oes gan eich sefydliad un neu

Os ydych yn pryderu, PEIDIWCH AG

  • oedi; neu
  • cymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn sylwi ac yn gwneud rhywbeth.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Awst 2021