Toglo gwelededd dewislen symudol

Oes angen caniatâd cynllunio arnaf?

Canfod a oes angen caniatâd cynllunio arnoch.

Mae hawliau datblygu a ganiateir yn nodi'r amodau a'r cyfyngiadau sy'n rheoli estyniadau ac addasiadau i'ch tŷ a gwaith arall o fewn cwrtil eich eiddo fel codi tai allan a darparu wynebau caled.

Dan hawliau datblygu a ganiateir, mae'n bosib y byddwch yn gallu gwneud gwaith heb fod angen caniatâd cynllunio.

Sylwer: er efallai na fydd hi'n ofynnol i chi gael caniatâd cynllunio ar gyfer addasiadau, efallai y bydd angen rheoliadau adeiladu arnoch ar gyfer unrhyw waith adeiladu.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyngor ar hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer deiliaid tai: Hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer deiliaid tai (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae rhagor o arweiniad ar yr angen am ganiatâd cynllunio ar gael drwy'r porth cynllunio, lle gallwch hefyd gyflwyno cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon Arfaethedig, dogfen gyfreithiol a fydd yn cadarnhau'n ysgrifenedig a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Hydref 2023