Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024 / 2025 - Canllawiau cwblhau grant
Arweiniad i'ch cynorthwyo i gwblhau eich cais.
- Dylech ymgyfarwyddo â chanllawiau, blaenoriaethau a ffurflen gais y grant.
- Lluniwch gynllun prosiect, gan nodi themâu allweddol, blaenoriaethau a chwestiynau am y cais cyn llenwi'r ffurflen gais.
- Ymgynghorwch â'r Swyddog Datblygu sy'n berthnasol i'ch sefydliad gofal plant cenedlaethol cysylltiedig. Sylwer: Nid yw swyddogion y Cyngor yn Swyddogion Datblygu.
- Byddwch yn realistig gyda'r hyn yr ydych yn ymrwymo iddo. Mae ceisiadau na allant gyflawni eu cynnig yn debygol o weld ceisiadau am ddyfarniadau'n cael eu dychwelyd yn llawn a/neu'n rhannol.
- Nodwch unrhyw amserlenni a osodir gan y grant. Yn aml mae'n rhaid gwario arian grant yn yr un blynyddoedd ariannol ag y caiff ei ddyfarnu.
- Byddwch yn benodol. Defnyddiwch frawddegau byr ac osgowch acronymau ac iaith dechnegol. Ceisiwch beidio ag ailadrodd eich hun ac atebwch y cwestiwn.
- Ceisiwch adlewyrchu'r cwestiwn yn eich ateb. Darllenwch dros eich cais. Gwiriwch a ydych wedi ateb y cwestiwn yn ei gyfanrwydd.
- Rhowch fanylion: Osgowch wybodaeth generig, h.y.
- "Rydym am gynnal sesiynau chwarae drwy gydol gwyliau'r Pasg." / "Rydym am gynnal tair sesiwn hanner diwrnod mynediad agored (9.30 - 11.30) yr wythnos; Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yn ystod dwy wythnos gwyliau'r Pasg."
- "Rydym am ailaddurno ein cegin." / "Rydym am ailaddurno ein cegin 12 metr sgwâr, gan gynnwys cael gwared ar yr holl unedau presennol yn llawn, addurno waliau, gosod lloriau gwrthlithro newydd a gosod unedau a nwyddau trydanol newydd."
- Sicrhewch fod eich cais yn bodloni blaenoriaethau'r grantiau, a bod y cais yn canolbwyntio ar y rhain.
- Darparwch dystiolaeth fod angen eich gwaith. Cyfeiriwch at wybodaeth berthnasol fel Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant, Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, Cynlluniau Datblygu Lleol a/neu unrhyw ymgysylltu â rhanddeiliaid etc.
- Atebwch bob cwestiwn a chynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Bydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu gwrthod yn awtomatig.
- Glynwch wrth unrhyw isafswm a/neu uchafswm cyfrif geiriau.
- Glynwch wrth derfynau amser a dyddiadau cyflwyno terfynol. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried.
- Darparwch gostau cryno. Sicrhewch fod eich cyllideb mor benodol â phosib. Casglwch ddyfynbrisiau, byddwch yn ymwybodol o gyflogau fesul awr etc. Nid oes modd 'ychwanegu at' geisiadau grant. Sicrhewch fod popeth y bydd angen i chi ei gynnwys wedi'i gynnwys fel bod y cais am grant yn gywir.
- Peidiwch â gwneud cais i fwy nag un rhaglen grant er mwyn ariannu'r un ceisiadau
Addaswyd diwethaf ar 10 Ebrill 2024