Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodiadau arweiniol ar fannau croesi i gerbydau

Bydd angen i gynnig am fan croesi newydd fodloni gofynion cynllunio a phriffyrdd cyn y gall fynd yn ei flaen. Dylai'r nodiadau hyn eich arwain drwy'r gweithdrefnau angenrheidiol.

Adeiladwyd llawer o eiddo yn Abertawe ar adeg pan naill ai nad oed ceir yn bodoli neu roeddent yn brin iawn ac felly nid oedd angen am fan croesi i gerbydau o'r ffordd i'r eiddo.

Mae gweithdrefnau yn y Ddeddf Priffyrdd ar waith i alluogi pobl i gael mynediad o'r ffordd ar draws llwybrau troed ac ymylon ffyrdd, sy'n rhan o'r briffordd. Mae'r gweithdrefnau hyn yn sicrhau nad yw diogelwch defnyddwyr ffyrdd eraill a cherddwyr yn cael ei beryglu, ac nid achosir difrod i'r ffordd neu'r llwybr troed.

Cam 1

Nid oes angen caniatad cynllunio fel arfer os yw'r mynediad i ffordd annosbarthedig, ond gallai ei fod angen os yw'r mynediad yn rhan o waith ehangach i'r eiddo, neu os yw'r eiddo mewn ardal gadwraeth. Eto, dylech geisio cyngor gan eich swyddfa gynllunio leol cyn mynd yn eich blaen. Os ydynt yn dweud nad oes angen caniatad cynllunio, sicrhewch fod gennych y penderfyniad hwnnw'n ysgrifenedig.

Os ydych yn byw ar ffordd ddosbarthedig (A, B neu C), bydd angen caniatad cynllunio arnoch ar gyfer mynediad newydd i'ch eiddo. I wneud cais cynllunio, bydd angen i chi gyflwyno cynlluniau am eich cynigion a thalu'r ffi briodol.

Mae'n ddoeth trafod eich syniadau a'r awdurdod cynllunio lleol (Dinas a Sir Abertawe) yn gyntaf. Bydd y swyddfa gynllunio yn rhoi gwybodaeth i chi am y peiriannydd priodol i siarad ag ef am oblygiadau i briffyrdd o ganlyniad i'ch cynigion.

Bydd y peiriannydd am wirio bod gan eich mynediad welededd digonol ac, os yw'n angenrheidiol, lle i droi cerbydau. Efallai na fydd yn bosib bacio cerbyd yn ol i ffordd brysur. Os nad yw'ch cynigion yn bodloni'r meini prawf gofynnol, gofynnir i chi newid eich cynlluniau. Os na ellir bodloni'r meini prawf hyn, gall eich cais gael ei wrthod.

Cam 2

Rhaid cyflwyno ffurflen gais ar gyfer pob man croesi newydd p'un a oes angen caniatad cynllunio neu beidio. Mae angen llenwi'r ffurflen gais ar bob achlysur. Rhaid i ffi o £120.00 sy'n daladwy i Ddinas a Sir Abertawe gael ei derbyn ar adeg cyflwyno'r cais (ni ellir ad-dalu hyn). Mae'r ffi er mwyn talu am gostau gweinyddol a ddygir gan yr awdurdod am brosesu'r caniatad. Pan dderbynnir eich cais, bydd arolygydd yn ymweld a'r eiddo i gasglu'r wybodaeth berthnasol.

Cam 3

Bydd y dyfynbris yn ddilys am 6 mis os ydych yn penderfynu mynd yn eich blaen; dylech ddychwelyd eich cadarnhad am y dyfynbris wedi'i lofnodi a thalu'n llawn cyn y gall gwaith ddechrau. Byddai gwaith fel arfer yn cychwyn o fewn chwe wythnos. Bydd y man croesi i gerbydau wedi'i chwblhau yn rhan o'r briffordd, a'r awdurdod priffordd lleol fydd yn gyfrifol am ei chynnal a'i chadw yn y dyfodol.


Cwestiynau Cyffredin

A ellir gwrthod cais am fan croes i gerbydau?

Anaml y caiff cais ei wrthod. Fodd bynnag, mae sefyllfaoedd lle efallai na roddir caniatad, e.e.:

a)  Coed aeddfed yno

b)  Gorchmynion traffig sydd eisoes yn bodoli, e.e. cilfachau parcio

c)  Mannau cyrraedd/gadael anniogel

ch)  Dyfnder/lled digonol i barcio cerbyd yn gyfan gwbl yng nghwrtil y safle, h.y. o leiaf 5 metr o ddyfnder x 2.5 metr o led NEU 8 metr o led x 2.6 metr o ddyfnder.

Os yw unrhyw un o'r amodau uchod yn berthnasol, fe'ch cynghorir i gysylltu a'r Adran Priffyrdd cyn cyflwyno cais yn swyddogol. 

A ellir gwrthod cais am linell wen H-Bar?

Gellir - gellir gwrthod ceisiadau H-Bar am nifer o resymau. Cysylltwch a'r Adran Priffyrdd os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.

Oes rhaid i mi dderbyn y dyfynbris?

Oes - Y weithdrefn hon yw'r unig ffordd i chi gael man croesi i gerbydau cyfreithiol i'ch eiddo. Os nad ydych yn derbyn y dyfynbris ac rydych yn dechrau neu'n parhau i yrru ar draws y llwybr troed a/neu ymyl y ffordd heb fan croesi awdurdodedig, gallech dderbyn hysbysiad ffurfiol a chaiff mynediad ei wrthod.

A allaf gael contractwr fy hun i adeiladu man croesi i gerbydau?

Na allwch - Mae gan Ddinas a Sir Abertawe, fel yr awdurdod priffyrdd, gyfrifoldeb i reoli'r holl waith ar y rhwydwaith priffyrdd lleol. Mae deddfwriaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar yn gofyn am gysylltiad llawer agosach rhwng yr awdurdod priffyrdd a'r cwmnioedd cyfleustodau wrth weithio ar y briffordd.

Mae angen yswiriant atebolrwydd cyhoeddus hyd at o leiaf £5 miliwn, safon uchel o waith gan bersonel ardystiedig a goruchwyliaeth agos wrth weithio ar y briffordd lle ceir prif wifrau a cheblau tanddaearol. Mae elfennau ymarferol bodloni'r gofynion hyn yn golygu mai contractwr Dinas a Sir Abertawe yn unig all wneud y gwaith hwn.

A ellir cau man croesi i gerbydau anawdurdodedig?

Gellir - Mae gan ein Hadran Priffyrdd awdurdod i gymryd camau gweithredu i atal y defydd o fannau croesi anawdurdodedig.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Ebrill 2023