Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyrbau isel

Cerrig cwrbyn is sy'n caniatáu i gerbydau gael mynediad i'w dreif a ffyrdd mynediad eraill i dai yw cyrbau isel neu groesiad cerbydau.

Efallai bydd angen caniatâd cynllunio os yw'r groesfan arfaethedig ar ffordd ddosbarthedig (Ffyrdd A, B neu C/Prif Ffyrdd) a/neu os ydych yn bwriadu adeiladu rhodfa neu ardal barcio yn eich eiddo. Cysylltwch â'r Adran Gynllunio os yw hyn yn berthnasol cyn cyflwyno cais am groesfan i gerbydau.

Sylwer, rhaid cael ardal barcio 5 metr o ddyfnder x 2.5 metr o led, neu 8 metr o led x 2.6 metr o led os ydych yn parcio'n baralel i'r eiddo. Ni ddylai eich cerbyd fod ar y briffordd pan fydd wedi'i barcio. Bydd ceisiadau nad ydynt yn bodloni'r gofynion hyn yn cael eu gwrthod.

 

Unwaith i ni dderbyn eich cais bydd arolygwr yn ymweld â'r safle. Caiff caniatâd ffurfiol a dyfynbris sefydlog eu hanfon ymlaen atoch. Rydym yn bwriadu gwneud hyn o fewn 8 wythnos, ond gall gymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur.

Bydd gwaith adeiladu'r croesiad fel arfer yn cael ei gwblhau o fewn wyth wythnos i dderbyn y taliad (a wnaed ymlaen llaw) ar gyfer cost llawn y gwaith.

Sylwer, nad yw'r cyngor yn caniatáu adeiladu mannau croesi gan gontractwyr preifat nac unigolion.

Darllenwch y nodiadau canllaw cyn gwneud cais Nodiadau arweiniol ar fannau croesi i gerbydau

Pa waith fydd yn cael ei wneud

Pan fyddwn yn creu croesiad byddwn yn

  • gostwng y cwrbyn o flaen eich dreif.
  • symud neu'n diogelu celfi'r briffordd, pibellau a cheblau
  • cryfhau'r llwybr troed a'r ymyl laswellt bresennol rhwng ffin yr eiddo ac ymyl y ffordd
  • ailwynebu neu ail-osod y ffordd yn ôl yr angen.

Beth yw manteision gwneud cais am groesiad i gerbydau?

  • Lleihau tagfeydd ar y ffordd.
  • Gwella diogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd eraill a cherddwyr.
  • Llai o risg o ddifrod i'ch cerbyd a phremiwm yswiriant llai o bosib.
  • Llai o ddifrod i balmentydd ac ymylon glaswellt
  • Cynnydd posib yng ngwerth eich eiddo o ganlyniad i gyfleuster parcio oddi ar y ffordd.

Nodiadau arweiniol ar fannau croesi i gerbydau

Bydd angen i gynnig am fan croesi newydd fodloni gofynion cynllunio a phriffyrdd cyn y gall fynd yn ei flaen. Dylai'r nodiadau hyn eich arwain drwy'r gweithdrefnau angenrheidiol.

Ffurflen gais am groesiad i gerbydau

Cerrig cwrbyn is sy'n caniatau i gerbydau gael mynediad i'w dreif a ffyrdd mynediad i'w dreif a ffyrdd mynediad eraill i dai yw cyrbau isel neu groesiad cerbydau.

Cwestiynau cyffredin am gyrbau isel

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am gyrbau isel.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Hydref 2025