Toglo gwelededd dewislen symudol

Cartrefi â chymorth

Os oes angen cefnogaeth weddol uchel arnoch er mwyn byw yn eich eiddo'ch hunan, efallai y bydd cartrefi â chymorth yn fwy addas i chi am y tro na byw ar eich pen eich hunan.

Mewn llawer o achosion cartrefi â chymorth, cewch eich lle byw'ch hunan a gallai'r cartrefi gynnwys lolfa gymunedol neu ystafell ymolchi y byddwch yn ei rhannu â'r trigolion eraill. Bydd gweithiwr cefnogaeth ar gael yn yr eiddo i'ch helpu gydag unrhyw anhawster a fydd gennych a bydd yn gweithio gyda chi i'ch paratoi i symud i'ch eiddo'ch hunan.

Nid ystyrir prosiectau cartrefi â chymorth yn lleoedd i fyw yn y tymor hir, ond byddant yn rhywle i chi aros wrth i chi ddysgu'r sgiliau i fynd i'r afael â chyfrifoldebau cael eich lle'ch hunan.

Bydd gan y rhan fwyaf o brosiectau cartrefi â chymorth yn Abertawe ymrwymiad gan y cyngor a'r cymdeithasau tai lleol i'ch helpu i ddod o hyd i dai parhaol pan fyddwch yn barod i symud o gartrefi â chymorth.

Bydd rhai prosiectau â chymorth yn cynnig help a rhywle i chi fyw beth bynnag yw'ch anghenion ond bydd prosiectau eraill yn ymdrin â rhai anghenion yn unig.

Er enghraifft, bydd rhai prosiectau'n eich helpu os ydych:

  • yn ifanc
  • yn hyn
  • yn ddigartref
  • yn dioddef cam-drin yn y cartref
  • â phroblemau iechyd meddwl neu anableddau dysgu
  • mewn angen cefnogaeth am ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau
  • â hanes o droseddu

I gael rhagor o wybodaeth am gartrefi â chymorth, cysylltwch ag Opsiynau Tai

Close Dewis iaith