Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Casglu â chymorth

Os ydych yn cael problemau yn cario'ch ailgylchu a'ch sbwriel i ymyl y ffordd, gallwch wneud cais am gasgliad â chymorth.

Mae casgliadau â chymorth ar gael i breswylwyr a chanddynt anabledd neu breswylwyr hŷn. Dylech hefyd gymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu. Gallwn gasglu'ch ailgylchu a'ch sbwriel o fan ar eich eiddo rydym yn cytuno iddo. Gall preswylwyr ofyn am gasgliad â chymorth os:

  • yw'r ymgeisydd yn anabl ac nid yw'n gallu cario'r bagiau a'r biniau i ymyl y ffordd er mwyn eu casglu.
  • nad oes unrhyw breswylydd arall yn y cartref sy'n gallu cario'r bagiau a'r biniau i ymyl y ffordd i'w casglu.
  • nad oes aelod o'r teulu, cymydog neu ofalwr sy'n gallu helpu i gario'r bagiau a'r biniau i ymyl y ffordd i'w casglu.
  • gall yr ymgeisydd ddangos prawf o'i analluogrwydd neu ei anabledd os oes ei angen arnom. Gallai hyn fod ar ffurf llythyr oddi wrth weithiwr meddygol neu ofal proffesiynol.

I wneud cais am gasgliad â chymorth, llenwch y ffurflen isod. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i asesu p'un a allwn gynnig casgliad â chymorth i chi. Os oes angen prawf o analluogrwydd neu anabledd arnom, byddwn yn cysylltu â chi.

Bob dwy flynedd byddwn yn edrych ar yr angen am gasgliad â chymorth. Os nad oes angen casgliad â chymorth arnoch mwyach, dylech roi gwybod i ni.

Mae'n rhaid i chi barhau i roi eich bagiau a'ch biniau ar ymyl y ffordd i'w casglu nes y gallwn gadarnhau eich casgliad â chymorth. 

Nid oes gan gasglwyr sbwriel hawl i fynd i mewn i adeiladau (er enghraifft garejis, siediau) i symud a dychwelyd cynwysyddion. Rhaid i'r holl gatiau fod ar glo a rhaid symud unrhyw rwystrau ar y diwrnod casglu.

Nid ydym yn cynnig casgliad â chymorth os oes gennych ddreif hir yn unig, os yw ffin yr eiddo'n bell i ffwrdd o'r eiddo neu os ydych yn absennol ar ddiwrnodau casglu.

Close Dewis iaith