Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2021

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn nodi'r hawliau sydd gan bob plentyn 0-18 oed i sicrhau eu bod yn iach, yn hapus ac yn ddiogel.

Cynnwys

  1. Beth yw'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc?
  2. Datblygu'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc
  3. Beth yw'r ddyletswydd ar Gyngor Abertawe?
  4. Pwy sy'n gyfrifol am roi sylw priodol i CCUHP?
  5. Sut y byddwn yn cydymffurfio a'r ddyletswydd i roi sylw priodol i CCUHP?
  6. Pwy sy'n ymwneud a sicrhau bod Cyngor Abertawe yn cydymffurfio a'r ddyletswydd hon?
  7. Atodiad 1: Erthyglau CCUHP
  8. Atodiad 2: Sicrhau Hawliau Plant

 

Beth yw'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc?

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn nodi'r hawliau sydd gan bob plentyn 0-18 oed i sicrhau eu bod yn iach, yn hapus ac yn ddiogel.

Ym mis Medi 2013, cytunodd Cyngor Abertawe y dylid ymgorffori hawliau plant o fewn fframwaith polisi'r Cyngor, ac y dylid gosod dyletswydd ar Gabinet y Cyngor i roi 'sylw priodol' i CCUHP wrth wneud penderfyniadau.

Mae hyn yn golygu pan fydd Cyngor Abertawe yn datblygu polisïau neu strategaethau newydd, yn adolygu neu'n newid polisïau a strategaethau presennol, neu'n datblygu neu'n newid gwasanaethau'r Cyngor, mae'n rhaid meddwl sut mae'r penderfyniadau hynny'n effeithio ar hawliau plant yn Abertawe.

Mae'r cynllun hwn yn amlinellu sut mae Cyngor Abertawe yn bwriadu rhoi sylw priodol i CCUHP.

Cyhoeddwyd y Cynllun gwreiddiol yn 2014, dyma ail fersiwn y cynllun sydd wedi'i diweddaru yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus

 

Datblygu'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc

Dyma ail fersiwn y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc. Lluniwyd y fersiwn hon ar y cyd â phlant, pobl ifanc, teuluoedd, aelodau'r cyhoedd, aelodau o Rwydwaith Hawliau Plant Abertawe ac Aelodau o Gyngor Abertawe.

Mae'r fersiwn hon yn ymgorffori dull 'Y Ffordd Gywir' Comisiynydd Plant Cymru, sy'n nodi 5 egwyddor allweddol, yr ydym yn anelu atynt i wreiddio CCUHP ym mhob un o brosesau gwneud penderfyniadau'r Cyngor

Cyfranogiad
Gwneud yn siŵr bod trefniadau o ansawdd da ar waith i sicrhau y gwrandewir ar blant a phobl ifanc, a bod eu barn yn cael ei chlywed, mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud sy'n effeithio arnynt.

Grymuso
Hyrwyddo hawliau i blant a phobl ifanc fel eu bod yn teimlo y gallant eu harfer.

GwreiddioCael systemau ar waith i gofnodi sut rydyn ni'n meddwl am effaith penderfyniad ar hawliau plant ac i ddangos tystiolaeth o hyn. Gwneud yn siŵr bod gweithwyr yn deall CCUHP a sut mae eu gwaith yn effeithio ar hawliau plant.

AtebolrwyddCael systemau ar waith i adrodd am yr hyn rydym yn ei wneud i wneud hawliau plant yn realiti yn Abertawe.

Dim camwahaniaethuGwneud ymdrechion arbennig i sicrhau bod plant a phobl ifanc a allai fod yn llai tebygol o gael gafael ar eu hawliau, yn cael cyfle cyfartal i allu gwneud hynny.

 

Beth yw'r ddyletswydd ar Gyngor Abertawe?

1.  Bydd yr Awdurdod Lleol yn gwreiddio ac yn ymgorffori CCUHP (1989) yn Fframwaith Polisi'r Cyngor a bydd yn rhoi sylw priodol i ofynion:

(a)  Rhan 1 y Confensiwn.
(b)  Erthyglau 1 i 7 o'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn ar gyfranogiad plant mewn gwrthdaro arfog, ac eithrio erthygl 6(2), a;
(c)  Erthyglau 1 i 10 o'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn ar werthu plant, puteindra plant a phornograffi plant.

2.  Bydd gan y Cabinet 'sylw priodol' i CCUHP (1989);

3.  Bydd y Cyngor yn cyhoeddi Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc, a bydd yn datblygu Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc, gan adrodd am:

(a)  roi'r ddyletswydd sylw priodol ar waith; a
(b)  hyrwyddo hawliau plant yn Abertawe.

 

Pwy sy'n gyfrifol am roi sylw priodol i CCUHP?

Nid yw'r Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn sefyll ar ei ben ei hun, ac mae'n cysylltu â llawer o bolisïau eraill sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc, o fewn y Cyngor.

Mae Hawliau Plant yn thema allweddol trwy'r holl waith hwn a nod y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yw adeiladu ymagwedd y Cyngor cyfan at wreiddio hawliau mewn gwaith cyfredol a chynlluniedig. Felly, mae pawb sy'n gweithio yng Nghyngor Abertawe yn gyfrifol am barchu, deall a gwreiddio CCUHP. Ceir rhagor o wybodaeth am rolau penodol y Cabinet, Cynghorwyr, Rheolwyr a Staff Cyngor Abertawe mewn perthynas â rhoi sylw priodol ar dudalen 6.

Bydd cynllun gweithredu yn nodi sut caiff y polisi hwn ei fesur, yn cael ei ddatblygu yn 2021 a'i roi ar waith fesul cam dros 3 blynedd.

 

Sut y byddwn yn cydymffurfio â'r ddyletswydd i roi sylw priodol i CCUHP?

O dan bob un o'r 5 egwyddor allweddol a amlinellir uchod, rydym wedi nodi'r camau sy'n ofynnol i wreiddio hawliau plant ym mholisïau, strategaethau a gwasanaethau Cyngor Abertawe. Byddwn yn monitro ac yn gwerthuso'n cynnydd yn erbyn pob un o'r camau hyn:

Cyfranogiad

  • Cynnwys plant yn uniongyrchol wrth ddylunio, monitro a gwerthuso'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn.
  • Dysgu sut mae sefydliadau eraill yn gwneud hyn, a datblygu cynlluniau sy'n diwallu anghenion plant a phobl ifanc yn Abertawe.
  • Datblygu targedau clir i wrando ar blant a phobl ifanc o grwpiau ymylol.
  • Cynnwys plant wrth recriwtio staff sydd â chyfrifoldebau sy'n effeithio ar blant.
  • Mabwysiadu'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, i sicrhau pan fydd profiadau plant yn rhai o ansawdd.

Grymuso

  • Rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar blant i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw (e.e. adroddiadau mewn iaith syml).
  • Rhoi'r cyfleoedd sydd eu hangen ar blant i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw (e.e. cyfleoedd i graffu ar y rheini sy'n gwneud penderfyniadau e.e. rhoi cyfle i grŵp o bobl ifanc ofyn cwestiynau'n uniongyrchol i wneuthurwr penderfyniadau allweddol).
  • Sefydlu perthnasoedd â grwpiau o bobl ifanc i'w galluogi i graffu ar waith yn gyson. E.e. grwpiau/ fforymau ieuenctid, neu gallech ystyried ffurfio'ch grŵp ieuenctid eich hun.
  • Rhoi'r hyfforddiant neu'r wybodaeth sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc i wneud hyn yn iawn.

Gwreiddio

  • Sicrhau bod gan arweinwyr a staff wybodaeth dda am hawliau plant (CCUHP), a'u helpu i ddeall sut y gall fod o fudd i waith ein sefydliad.
  • Defnyddio'n hadnoddau i ddarparu hyfforddiant ar hawliau plant. Sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr sydd â chyfrifoldeb i hyrwyddo hawliau plant a gosod targedau ar gyfer sut i wreiddio hawliau plant ym mhob gwaith.
  • Sicrhau bod adnoddau AD/ariannol i gefnogi a hyrwyddo hawliau plant.

Atebolrwydd

  • Cyhoeddi diweddariad blynyddol hygyrch yn dangos sut rydym wedi gweithio tuag at wneud hawliau plant yn real yn Abertawe.
  • Rhoi adborth yn rheolaidd i blant mewn fformat addas.
  • Rhoi gwybodaeth hygyrch i blant ar sut i roi adborth am yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn dda neu'r hyn y gallem ei wella, gwneud cwynion neu ddwyn staff i gyfrif.

Dim camwahaniaethu

  • Sicrhau bod gan staff yr wybodaeth ddiweddaraf am y Ddeddf Cydraddoldeb a'u bod yn derbyn hyfforddiant rheolaidd i gynyddu eu hymwybyddiaeth o wahanol grwpiau o anghenion plant a phobl ifanc.
  • Defnyddio Asesiad Effaith Hawliau Plant (CRIA) i ystyried sut y gallai penderfyniadau unigol (e.e. prosiectau/gwasanaethau) effeithio ar wahanol grwpiau o blant a phobl ifanc. Defnyddio'r wybodaeth sydd gennym am angen plant a phobl ifanc i ystyried a yw ein gwasanaethau'n cyrraedd yr holl grwpiau o bobl ifanc.
  • Darparu gwybodaeth i blant mewn iaith neu fformat sy'n briodol i'w hoedran a'u haeddfedrwydd, eu diwylliant neu eu hanabledd.

 

Pwy sy'n ymwneud â sicrhau bod Cyngor Abertawe yn cydymffurfio â'r ddyletswydd hon?

Yn yr adran hon, mae'r trefniadau penodol i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cydymffurfio â'r ddyletswydd i roi sylw priodol i CCUHP wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau, a'r rolau a'r cyfrifoldebau yn cael eu nodi isod:

Aelodau'r Cabinet

  • Rhaid iddynt roi sylw priodol i CCUHP wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau a rhaid iddynt fod yn gwbl ymwybodol o'r ddyletswydd wrth wneud eu penderfyniadau; maen nhw'n gyfrifol am sicrhau bod Cyngor Abertawe yn cydymffurfio â'r ddyletswydd.
  • Maent yn gyfrifol am gytuno ar y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc a'i monitro.
  • Byddant yn ystyried y cynnydd a wnaed o ran gweithredu'r Cynllun fel yr amlinellir mewn adroddiad cynnydd blynyddol.
  • Mae Aelod Arweiniol o'r Cabinet wedi'i nodi a fydd yn arfer arweinyddiaeth wleidyddol ar gyfer hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc o dan CCUHP (1989).

Tîm Rheoli Corfforaethol

  • Rhaid iddynt hefyd roi sylw priodol i CCUHP wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau a rhaid iddynt fod yn gwbl ymwybodol o'r ddyletswydd wrth wneud eu penderfyniadau; mae eu gwaith yn cynnwys datblygu prosesau mewnol a fydd yn sicrhau bod staff yn cydymffurfio â'r ddyletswydd.
  • Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor, datblygu offer a dulliau cofnodi i helpu staff i ystyried y CCUHP yn eu gwaith ac yn eu hopsiynau a'u cyngor i Aelodau'r Cabinet.
  • Byddant yn derbyn yr adroddiad cynnydd blynyddol ar weithredu'r Cynllun ac yn monitro cynnydd fel y manylir yn y cynllun gweithredu.
  • Bydd y Tîm Rheoli Corfforaethol yn gweithio gyda'r Aelod Arweiniol i sicrhau bod deialog effeithiol yn digwydd rhwng Aelodau/Swyddogion i wreiddio a hyrwyddo hawliau plant a gwreiddio CCUHP mewn polisi ac arfer.

Penaethiaid Gwasanaeth

  • Byddant yn sicrhau bod gan yr holl staff, gan gynnwys eu hunain, lefel addas o wybodaeth am yr CCUHP a goblygiadau'r Cynllun ar eu maes gwaith.
  • Byddant yn gweithredu fel 'Hyrwyddwyr' hawliau plant ac yn hyrwyddo ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o CCUHP yn eu maes gwasanaeth i wella arfer sy'n seiliedig ar hawliau.
  • Byddant yn sicrhau bod yr opsiynau a'r cyngor y mae eu staff yn eu cynnwys yn y broses adrodd gorfforaethol o ansawdd da ac wedi rhoi sylw priodol i CCUHP.
  • Byddant yn cyfrannu at yr adroddiad cynnydd blynyddol ar weithredu'r Cynllun ac yn monitro cynnydd fel y'i manylir yn y cynllun gweithredu.

Staff y Cyngor

  • Byddant yn cefnogi'r Cabinet a'r Cyngor i roi sylw priodol i CCUHP wrth wneud penderfyniadau, gan eu bod yn darparu opsiynau a chyngor mewn perthynas â swyddogaethau'r Cyngor.
  • Byddant yn rhoi ystyriaeth gytbwys i CCUHP, cyn iddynt ddechrau datblygu polisïau neu ddarnau eraill o waith trwy'r Broses Asesu Effaith Integredig.
  • Byddant yn rhoi gwybodaeth am hyfforddiant a chynyddu ymwybyddiaeth i staff i'w helpu i ddeall CCUHP a sut mae'n effeithio ar eu rôl.

 

Atodiad 1: Erthyglau UNCRC

Erthygl 1: Mae gan bawb o dan 18 oed yr hawliau yma.

Erthygl 2: Mae gan bob plentyn yr hawliau yma waeth beth. Dylai blant cael eu trin yn gyfartal.

Erthygl 3: Dylai oedolion bob amser wneud yr hyn sydd orau i ti.

Erthygl 4: Dylai'r Llywodraeth ofalu bod yr hawliau hyn ar gael i bob plentyn a pherson ifanc.

Erthygl 5: Dylai'r Llywodraeth barchu hawl dy deulu i dy helpu i wybod am dy hawliau.

Erthygl 6: Mae gennyt ti'r hawl i fywyd, i dyfu i fyny ac i gyrraedd dy botensial llawn.

Erthygl 7: Mae gennyt ti'r hawl i gael enw a chenedligrwydd.

Erthygl 8: Mae gennyt ti'r hawl i hunaniaeth.

Erthygl 9: Mae gennyt ti'r hawl i fod gyda dy rieni os mae dyna sydd orau i ti.

Erthygl 10: Mae gennyt ti'r hawl i weld dy deulu os ydynt yn byw mewn gwlad arall.

Erthygl 11: Mae gennyt ti'r hawl i beidio â chael dy gymryd o'r wlad yn anghyfreithlon neu i gael dy gipio.

Erthygl 12: Mae gennyt ti'r hawl i rywun wrando arnat ac i gael dy gymryd o ddifri.

Erthygl 13: Mae gennyt ti'r hawl i ddarganfod a rhannu gwybodaeth ac i ddweud dy farn.

Erthygl 14: Mae gennyt ti'r hawl i ymarfer dy grefydd dy hun, cyhyd ac nad wyt ti'n atal pobl rhag derbyn eu hawliau.

Erthygl 15: Mae gennyt ti'r hawl i gwrdd â ffrindiau ac ymuno â grwpiau.

Erthygl 16: Mae gennyt ti'r hawl i breifatrwydd.

Erthygl 17: Mae gennyt ti'r hawl i gael gwybodaeth onest, ddealladwy gan y cyfryngau, cyhyd â bod e'n ddiogel.

Erthygl 18: Mae gennyt ti'r hawl i gael dy fagu gan y 2 riant, os yw'n bosib.

Erthygl 19: Mae gennyt ti'r hawl i gael dy amddiffyn rhag cael dy frifo neu dy drin yn wael.

Erthygl 20: Mae gennyt ti'r hawl i dderbyn gofal priodol os nad wyt ti'n gallu byw gyda dy deulu dy hun.

Erthygl 21: Os nad wyt ti'n byw gyda dy rieni, mae gennyt ti'r hawl i fyw yn y lle gorau i ti.

Erthygl 22: Os wyt ti'n ffoadur (refugee), mae gennyt ti'r un hawliau ag unrhyw blentyn arall yn y wlad.

Erthygl 23: : Os oes anabledd gyda ti, mae gennyt ti'r hawl i dderbyn gofal a chefnogaeth arbennig er mwyn i ti fedru byw bywyd llawn, annibynnol.

Erthygl 24: Mae gennyt ti'r hawl i gael dŵr glân, bwyd maethlon, amgylchedd glân a gofal iechyd da.

Erthygl 25: Os nad wyt ti'n byw gyda dy deulu, mae gennyt ti'r hawl i'r gofal rwyt ti'n derbyn i gael ei wirio'n rheolaidd.

Erthygl 26: Mae gennyt ti'r hawl i gefnogaeth gan y Llywodraeth os nad oes gan dy deulu ddigon o arian i fyw.

Erthygl 27: Mae gennyt ti'r hawl i dŷ addas, bwyd a dillad. Rhaid i lywodraethau helpu teuluoedd sy'n methu fforddio darparu hyn.

Erthygl 28: Mae gennyt ti'r hawl i gael addysg.

Erthygl 29: Mae gennyt ti'r hawl i fod y gorau gallet fod. Rhaid i addysg dy helpu i ddatblygu dy sgiliau a dy ddoniau yn llawn.

Erthygl 30: Mae gennyt ti'r hawl i siarad dy iaith dy hun a dilyn ffordd dy deulu o fyw.

Erthygl 31: Mae gennyt ti'r hawl i ymlacio a chwarae.

Erthygl 32: Mae gennyt ti'r hawl i gael dy ddiogelu rhag gwaith sy'n beryglus.

Erthygl 33: Mae gennyt ti'r hawl i gael dy ddiogelu rhag cyffuriau peryglus.

Erthygl 34: Ddylai neb gyffwrdd â ti mewn ffyrdd sy'n gwneud i ti deimlo'n anghyfforddus, yn anniogel neu'n drist.

Erthygl 35: Mae gennyt ti'r hawl i beidio â chael dy gipio, dy werthu neu dy fasnachu.

Erthygl 36: Mae gennyt ti'r hawl i gael dy gadw'n ddiogel rhag pethau a allai niweidio dy ddatblygiad.

Erthygl 37: Mae gennyt ti'r hawl i beidio â chael dy gosbi mewn ffordd greulon neu sy'n brifo.

Erthygl 38: Mae gennyt ti'r hawl i gael dy amddiffyn yn ystod rhyfel ac i beidio ymladd yn y fyddin os wyt ti o dan 15.

Erthygl 39: Mae gennyt ti'r hawl i help arbennig os wyt ti wedi cael dy frifo neu dy gamdrin.

Erthygl 40: Mae gennyt ti'r hawl i help cyfreithiol ac i gael dy drin yn deg os wyt ti wedi cael dy gyhuddo o dorri'r gyfraith.

Erthygl 41: Os yw cyfreithiau dy wlad yn dy amddiffyn yn well na'r hawliau yn y rhestr yma, dylai'r cyfreithiau yna aros yn eu lle.

Erthygl 42: Rhaid i'r Llywodraeth roi gwybod i blant a theuluoedd am hawliau plant.

Atodiad 2 - Sicrhau Hawliau Plant

Close Dewis iaith