Toglo gwelededd dewislen symudol

Cerbydau trydan

Gwybodaeth i breswylwyr ac ymwelwyr sy'n defnyddio cerbydau trydan.

 

Cerbydau trydan mewn meysydd parcio

Ar hyn o bryd mae 25 o feysydd parcio'r cyngor yn cynnig mannau gwefru cerbydau trydan i'w defnyddio gan y cyhoedd.

Mae'r holl fannau gwefru ym meysydd parcio'r cyngor yn darparu trydan adnewyddadwy 100% i ddefnyddwyr. Mae'r 25 safle'n cynnwys cyfanswm o 78 o fannau gwefru 'cyflym' sy'n golygu bod y mannau gwefru'n cynnig 7-22kW o bŵer.

Gallwch wefru batri cerbyd ar yr uchafswm cyfradd wefru y gall y cerbyd ei dderbyn yn unig. Er enghraifft, os 7kW yw uchafswm cyfradd wefru eich cerbyd, ni fyddwch yn gwefru'ch car yn gynt drwy ddefnyddio man gwefru 22kW. Gallwch ddefnyddio'r man gwefru o hyd, a bydd yn darparu uchafswm cyfradd wefru o hyd at 22kW.

Lleoliad a phrisiau

Mae mannau gwefru cerbydau trydan cyflym ar gael yn y lleoliadau canlynol ar draws Abertawe, gyda nifer y mannau gwefru ym mhob un wedi'u rhestru isod.

Mannau gwefru cyflym mewn meysydd parcio
Maes parcioNifer o fannau gwefru deuol (gyda 2 soced cerrynt tonnog 22kW)Cilfachau ar gyfer cerbydau trydan
East Burrows, Abertawe, SA1 1RR12
Stryd Pell, Abertawe, SA1 3ES12
Heol Trawler, Abertawe, SA1 1YH12
Trwyn Abertawe, Abertawe, SA1 1FY12
Stryd y Dŵr, Pontarddulais, SA4 8RL12
Gorwydd Road, Tregŵyr, SA4 3AG12
Heol Vardre, Clydach, SA6 5LP12
Stryd Leim, Gorseinon, SA4 4AD12
Heol Treharne, Treforys, SA6 7AA12
Baddonau, San Helen, Abertawe, SA1 4PQ12
Parcio a Theithio Glandŵr, Abertawe, SA1 2JT36
Parcio a Theithio Ffordd Fabian, SA1 8LD36
Maes parcio Porth Einon, SA3 1NN12
Maes parcio aml-lawr Bae Copr De, SA1 3BX510 (two Blue Badge spaces)
Maes parcio Swyddfa'r Post (Y Strand), SA1 2AE12
Maes parcio Gerddi Clun, SA3 5AS12
Maes parcio aml-lawr y Cwadrant, SA1 3QR12
Maes parcio Knab Rock, SA3 5EL12
Maes parcio'r Rec, SA2 0AR36
Maes parcio Lôn Northampton, SA1 4EW36
Maes parcio Langland, SA3 4SQ12
Maes parcio aml-lawr y Stryd Fawr, SA1 1NU36
Maes parcio'r Llaethdy, SA3 4BX12
Maes parcio Bae Caswell, SA3 3BS12
Maes parcio Bae Bracelet, SA3 4JT12

Mae'r mannau gwefru a restrir uchod yn cael eu rhedeg gan drydydd parti, Clenergy EV (Yn agor ffenestr newydd).

Prisiau ar gyfer defnyddio mannau gwefru

Pris cysylltu - Dd/B

Pris am barcio - rhaid talu ym mhob maes parcio, os codir tâl i barcio yno.

Sut i ddefnyddio'r mannau gwefru cerbydau trydan

Gellir defnyddio'r holl fannau gwefru naill ai ar sail talu wrth fynd drwy ffonio'r darparwr i ddechrau gwefru, neu gallwch gofrestru ar yr ap ffôn clyfar i ddefnyddio'r mannau gwefru. Defnyddiwch y ddolen ganlynol os hoffech gofrestru:

www.clenergy.online (Yn agor ffenestr newydd)

Mae'r mannau gwefru hefyd wedi'u rhestru ar Zap Map, gwefan dod i hyd i fannau gwefru cerbydau trydan fwyaf poblogaidd y DU.

www.zap-map.com/live (Yn agor ffenestr newydd)

Datblygiadau yn y dyfodol

Rydym yn bwriadu parhau i osod mannau gwefru cerbydau trydan ar draws yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i drosglwyddo i system drafnidiaeth carbon isel, allyriadau isel yng Nghymru ac yn cyd-fynd â Strategaeth Gwefru Ceir Trydan (Yn agor ffenestr newydd) a Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru (Yn agor ffenestr newydd) Llywodraeth Cymru.

Sicrhawyd cyllid ar gyfer gosod 44 o fannau gwefru cyflym pellach. Bydd y wedudalen hon yn cael ei diweddaru gyda'r manylion ynghylch ble y gallwch ddod o hyd iddynt ar ôl iddynt gael eu gosod.

Beth os ydw i am wefru fy nghar gartref ond does gen i ddim cyfleusterau parcio oddi ar y stryd?

Nid ydym yn caniatáu i geblau gwefru cerbydau trydan preifat gael eu defnyddio i wefru cerbydau ar y briffordd (lleoliadau ar y stryd). Bydd angen i chi ddod o hyd i'ch man gwefru cerbyd trydan cyhoeddus agosaf er mwyn gwefru'ch cerbyd. Mae Zapmap (Yn agor ffenestr newydd) yn wefan boblogaidd ar gyfer hyn.

 

Sicrhawyd cyllid ar gyfer y 25 man gwefru drwy gyfuniad o gyllid o Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru a Chynllun Mannau Gwefru Preswyl Ar-Stryd y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel yn 2019-20.

A project supported by Welsh Government, Office for Low Emission Vehicles and Energy Saving Trust (logos)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Rhagfyr 2023