Parcio a theithio
Mae gan Abertawe ddau safle Parcio a Theithio yn Fabian Way a Glandŵr.
Nid fydd y gwasanaethau parcio a theithio ar agor ar 25 a 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr. Cynhelir pob gwasanaeth arall fel arfer (dydd Llun i ddydd Sadwrn) dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Ffordd Fabian: Ar Noswyl Nadolig a Nos Galan, bydd y bws dwyffordd am 6.45pm yn casglu pobl yn Wellington Street yn hytrach na'r orsaf fysus.
Glandŵr: Ar Noswyl Nadolig a Nos Galan, bydd y bysus dwyffordd am 6.35pm a 6.55pm yn casglu pobl yn Wellington Street yn hytrach na'r orsaf fysus.
Mae'r safleoedd hyn yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 7.00am a 7.00pm, ac maent yn darparu cyswllt bws rheolaidd i ganol y ddinas ac oddi yno, gan ddefnyddio cerbydau hollol hygyrch.
£2.50 yn unig yw'r gost am barcio car drwy'r dydd ac i hyd at 4 person deithio i ganol y ddinas ac oddi yno ar y bws. Sylwer, nid yw'r ffi yn cynnwys taith i Gampws y Bae ac oddi yno, sy'n ffi First Cymru ar wahân y gallwch ei thalu ar y bws.
Cynnig presennol
Talwch £1 yn unig i barcio drwy'r dydd yn ein safleoedd parcio a theithio - a hynny ar gyfer un car a hyd at bedwar teithiwr!
Mae gan yr holl safleoedd ddarpariaeth CCTV lawn. Mae'r meysydd parcio ar bob safle wedi ennill gwobr Meysydd Parcio wedi'u Diogelu.
Mae'r gwasanaeth Parcio a Theithio yn gweithredu yn Abertawe gydag arian gan Lywodraeth Cymru.