Christchurch, Abertawe
Lle Llesol Abertawe
Clwb ieuenctid (blynyddoedd ysgol 5-8) - bob dydd Llun, 4.30pm (gweler ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer dyddiadau)
Caffi Cymunedol - bob dydd Iau, 10.00am - 12.00pm
Grŵp Crefftau - bob dydd Mawrth, 1.30pm - 3.30pm
Hwb Cyn-filwyr Abertawe
Ar agor bob dydd Sadwrn 10.00am - 12.00pm, dydd Mawrth 10.00am - 1.00pm, ar gyfer brecwast (dydd Sadwrn), byrbrydau a sesiynau te a choffi.
Cwmni buddiannau cymunedol a ffurfiwyd ar 24 Awst 2021 gan grŵp bach o gyn-filwyr a oedd wedi profi anawsterau iechyd meddwl yw Hwb Cyn-filwyr Abertawe. Mae ein hwb galw heibio yn cynnal boreau coffi lle gall cyn-filwyr sy'n agored i niwed a chyfranogwyr lleoedd diogel a chynnes ddod at ei gilydd mewn amgylchedd cyfforddus, heb fygythiad, sy'n caniatáu i'n gwirfoddolwyr arbenigol nodi'r bobl mwyaf diamddiffyn, gan gynnig strategaethau lles iddynt, a'u cyfeirio at therapïau a thriniaethau amgen.
- Mae lluniaeth ar gael
- mae te a choffi am ddim ar gael, a brecwast ar ddydd Sadwrn
- Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
- mae'r Hwb yn gweithredu mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau lleol i ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl a lles a chyfeirio ar gyfer cyn-filwyr, eu teuluoedd a chyfranogwyr lleoedd diogel a chynnes.
Cyfleusterau'r lleoliad
- Mynedfa / lleoliad hygyrch
- Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
- Dŵr yfed ar gael
- Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain
- Teganau i blant
- Gemau / gemau bwrdd