Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Chwarae i'r teulu

Dod a theuluoedd ynghyd drwy chwarae.

Mae'r Gweithwyr Datblygu Chwarae Teulu yn cynnig y cyfleoedd canlynol:

Stepping in to play (cwrs)

Dyma gyfle i dreulio amser yn archwilio sut i wneud amser gyda'ch teulu'n fwy o hwyl. Mae'n gwrs 6 sesiwn yn llawn syniadau, gweithgareddau a gemau i ysbrydoli teuluoedd i chwarae! Trwy gydol y cwrs byddwn yn edrych ar bwysigrwydd chwarae a sut gellir ei ddefnyddio i gryfhau teuluoedd, magu cadernid a gwella lles teuluoedd.

Sesiynau chwarae i'r teulu

Mae hwn yn gyfle i gael profiad chwarae unigryw i'r teulu cyfan! Mae hwn yn gyfle i deuluoedd brofi manteision chwarae.

Bagiau chwarae i'r teulu

Bag gwych yn llawn syniadau chwarae - i fynd ag ef adref a'i archwilio gyda'ch teulu. Y tu mewn, ceir detholiad cyffrous o eitemau gyda syniadau creadigol i chi chwarae gyda nhw. Mae'r holl eitemau hyn ar gael yn y cartref ac am ddim.

Sut gallwn eich helpu a / neu eich defnyddiwr gwasanaeth:

Gellir ein defnyddio gydag ystod o grwpiau targed. Gallwn hefyd gynnig teithiau tywys i deuluoedd i adnoddau chwarae lleol, gan gynnwys parciau a thraethau, i gefnogi teuluoedd i ddefnyddio eu mannau chwarae lleol.

Os oes diddordeb gennych, cysylltwch a'r gweithwyr Datblygu Chwarae i Deuluoedd (isod) i gael mwy o wybodaeth.

 

Kelly Wake - Gweithiwr Datblygu Chwarae Teulu

Manylion cyswllt.
Enw
Kelly Wake
Teitl y Swydd
Gweithiwr Datblygu Chwarae Teulu
Rhif ffôn
01792 635156
Rhif ffôn symudol
07825 401746

Liz Malinowska - Gweithiwr Datblygu Chwarae Teulu

Manylion cyswllt.
Enw
Liz Malinowska
Teitl y Swydd
Gweithiwr Datblygu Chwarae Teulu
Rhif ffôn
01792 635156