Toglo gwelededd dewislen symudol

Plant a phobl ifanc - gwybodaeth am ofal plant i rieni / ofalwyr

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr.

Ehangu'r rhaglen Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi o fis Medi 2022 ymlaen ei bod yn bwriadu ehangu'r rhaglen ar gyfer pob plentyn 2 oed yng Nghymru ar y cyd ag awdurdodau lleol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://llyw.cymru/ehangur-rhaglen-dechraun-deg-yng-nghymru

Bydd Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru a bydd hyn yn seiliedig ar ymagwedd fesul cam at gyflwyno gwasanaethau.
Yn Abertawe byddwn yn cyflwyno gofal plant wedi'i ariannu, gan flaenoriaethu ardaloedd â'r lefelau uchaf o amddifadedd fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Caiff rhieni / gofalwyr cymwys eu hysbysu maes o law.

 

Rydym am i'r holl blant a phobl ifanc yn Abertawe gael dechrau teg mewn bywyd, bod yn iach, bod yn ddiogel yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach, cael eu haddygu, mwynhau bywyd, bod a llais a gwneud cyfraniad cadarnhaol at helpu i wella Abertawe.

Gofal Plant Dechrau'n Deg - Gwiriwch eich cymhwysedd a gwnewch gais

Gwybodaeth am gymhwysedd a gwneud cais ynghylch Gofal Plant Dechrau'n Deg.

Gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru

Gofal plant wedi'i ariannu i blant 3 i 4 oed.

Pob math arall o ofal plant

Gwybodaeth ar sut i ddewis gofal plant, beth i'w ystyried â'r gwahanol fathau o ofal plant ar gael, ynghyd a rhestr o ddarparwyr gofal plant.

Chwarae i'r teulu

Dod a theuluoedd ynghyd drwy chwarae.

Canolfannau teuluoedd a chanolfannau plant yn Abertawe

Mae Canolfannau Teuluoedd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymunedol o safon i blant, pobl ifanc a theuluoedd i feithrin ac i atgyfnerthu perthnasoedd.

Dechrau'n Deg

Dechrau'n Deg yw rhaglen flaengar Llywodraeth Cymru ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar. Mae'n cael ei chynnig i deuluoedd â phlant dan 4 oed.

Plant a phobl ifanc anabl

Mae Tîm Anableddau Plant y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anableddau cymedrol i ddifrifol.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.
Close Dewis iaith