Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwirfoddoli a hyfforddi

Ffordd wych o gymryd rhan mewn chwaraeon a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol

Volunteering (IS)

Volunteering (IS)
Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli'n ffordd wych o gymryd rhan mewn chwaraeon a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned leol trwy ddarparu cymorth a chefnogaeth i glybiau chwaraeon lleol. Fel gwirfoddolwr, byddwch yn cael cyfle i ddatblygu'r sgiliau sydd gennych eisoes, dysgu sgiliau newydd, a chael cyfle i gwrdd â phobl newydd.

Bod yn wirfoddolwr chwaraeon ac iechyd

Oes gennych amser rhydd a diddordeb mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol? Os oes, gallai gweithio fel gwirfoddolwr chwaraeon ac iechyd fod yn ddelfrydol i chi. Mae'r tîm chwaraeon ac iechyd yn chwilio'n gyson am wirfoddolwyr bywiog ac ymroddedig i gefnogi gyda chyflwyno'r cynllun a byddant yn hapus i ddarparu hyfforddiant am ddim i wirfoddolwyr sy'n awyddus i gyfranogi.

Mae llawer o ddisgyblion hŷn mewn ysgolion yn arwain ac yn hyfforddi, yn ogystal â chynddisgyblion a myfyrwyr ar draws sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn Abertawe. Fodd bynnag, mae'r tîm hefyd yn awyddus i recriwtio mwy o wirfoddolwyr lleol. Mae llawer o'n gwirfoddolwr a'n hyfforddwyr yn arwain ac yn cefnogi sesiynau ym meysydd allweddol eraill o Abertawe Actif gan gynnwys ParkLives

Os oes diddordeb gennych mewn gwirfoddoli gyda ni, cwblhewch y ffurflen gais isod.

Bod yn wirfoddolwr chwaraeon ac iechyd Gwirfoddoli a hyfforddi

Hyfforddi

Hoffech chi chwarae rhan mewn datblygu chwaraeon yn Abertawe?

Mae rôl yr hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr wedi dod yn fwyfwy pwysig ym myd chwaraeon heddiw, ac yma yn Abertawe maent yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu chwaraeon yn y ddinas.

Mae'r tîm chwareon ac iechyd yn gweithio'n agos gyda chyrff llywodraethu chwareon amrywiol i ddarparu cyrsiau addysg hyfforddi chwaraeon yn Abertawe.

Oes diddordeb gennych mewn bod yn hyfforddwr chwaraeon?

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn hyfforddwr chwaraeon, neu rydych eisoes yn gymwys ac yn chwilio am fwy o gyfleoedd, cysylltwch â Chwaraeon ac Iechyd Abertawe