Chwaraeon i'r Anabl
Mae llwyth o gyfleoedd i bobl ag anabledd gymryd rhan mewn chwaraeon yn Abertawe.
I gael rhestr lawn o'r holl glybiau cynhwysol yn Abertawe, ewch i Chwaraeon Anabledd Cymru (Yn agor ffenestr newydd) a darllenwch adran Abertawe.
Os oes angen ragor o gymorth neu gyngor arnoch, cysylltwch â ni Chwaraeon ac Iechyd Abertawe.
Gŵyl Chwaraeon Para
Mae'r tîm Chwaraeon ac Iechyd hefyd yn cefnogi'r Ŵyl Chwaraeon Para flynyddol, a drefnir gan Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae'r Ŵyl Chwaraeon Para yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau y gellir cymryd rhan ynddynt a digwyddiadau cystadleuol.
Mae digwyddiadau y gellir cymryd rhan ynddynt yn agored i gyfranogwyr o bob lefel sgiliau. Mae'r digwyddiadau hyn wedi'u cynllunio i wneud chwaraeon para yn gynhwysol ac yn hygyrch i unrhyw un.
Mae digwyddiadau cystadleuol yn arddangos chwaraeon para o'r radd flaenaf. Dewch i gefnogi rhai o'r athletwyr para mwyaf talentog o bob cwr o'r DU a thramor.
Mae mwy o wybodaeth am yr Ŵyl Chwaraeon Para ar gael yma Gŵyl Parachwaraeon (Yn agor ffenestr newydd).
Cysylltu â ni...
Hoffem i chi gymryd rhan...
Rydym yn gobeithio eich gweld yn fuan ar gyfer un o'n gweithgareddau. Cofiwch ein dilyn ar Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Facebook (Yn agor ffenestr newydd), Chwaraeon ac Iechyd Abertawe X (Yn agor ffenestr newydd), Chwaraeon ac Iechyd Abertawe Instagram (Yn agor ffenestr newydd) a Chwaraeon ac Iechyd Abertawe YouTube (Yn agor ffenestr newydd) a chofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Chwaraeon ac Iechyd i glywed ein newyddion a chael rhagor o wybodaeth amdanom cyn gynted ag y bydd y rhain ar gael.