Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae gan fy mhlentyn anabledd - chwilio am gefnogaeth

Ceir sefydliadau a gwefannau sy'n cynnig amrywiaeth eang o wybodaeth, adnoddau a chefnogaeth.

Yr hyn sydd bwysicaf i rieni yw bod y cymorth a'r gefnogaeth y maent yn eu derbyn yn hawdd eu cyrraedd. Weithiau gall hyn olygu cânt eu cyfeirio at lenyddiaeth a gwefannau perthnasol, ond ar adegau eraill, nid yw rhiant yn gwybod lle i droi ac ar yr adegau hynny mae'n bosib y bydd angen i chi siarad â rhywun neu gael y cyfle i gwrd â  rhieni a gofalwyr eraill.

Anabledd Dysgu Cymru

Adnoddau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a'u cefnogwyr.

Disabled Living Foundation (DLF)

Elusen genedlaethol yw Disabled Living Foundation sy'n darparu cyngor, gwybodaeth a hyfforddiant diduedd ar fyw'n annibynnol.

Independence at Home

Elusen yw Independence at Home sy'n darparu grantiau i bobl o bob oed a chandynt anabledd corfforol neu ddysgu neu salwch tymor hir sydd mewn angen ariannol.

Focus on Disability

Adnodd ar-lein sy'n darparu gwybodaeth, canllawiau, cynnyrch ac adnoddau i'r gymuned anabl, yr henoed a gofalwyr y DU.

RNIB

Y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB), un o brif elusennau colli golwg y DU a'r gymuned fwyaf o bobl ddall a rhannol ddall.

Family Fund

Help i deuluoedd sydd â phlant ag anableddau.

Kin Cymru

Yn darparu help i rieni plant ag anghenion arbennig / anableddau i hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt.

Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol

Ariennir y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ac fe'i cynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), ac mae'n gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, arweinwyr awtistiaeth awdurdodau lleol a byrddau iechyd, rhanddeiliaid allweddol a grwpiau cynghori. Yn ogystal â'r adnoddau sydd ar gael ar draws gwefan Awtistiaeth Cymru, gallwch gael hyd i ragor o wybodaeth am waith pellach y tîm.

National Autistic Society Cymru

Mae'n darparu ystod eang o wasanaethau cefnogi personol o ansawdd i bobl ar y sbectrwm awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Circus Eruption

Rydym yn elusen sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc sy'n rhoi pwyslais ar gynhwysiad, amrywiaeth, cydraddoldeb a hwyl. Rydym yn defnyddio egni ac ymrwymiad pobl ifanc, gwirfoddolwyr a staff i greu amgylchedd diogel, chwareus, hygyrch a chreadigol, heb wahaniaethu a rhagfarn. Rydym yn defnyddio sgiliau syrcas fel cyfrwng i herio cyfyngiadau hunanganfyddedig a dodedig, gan alluogi pobl i ddeall a chredu yn eu potensial eu hunain a photensial eraill.

Interplay

Mae 'Interplay' yn brosiect sy'n ceisio integreiddio pobl ifanc ag anghenion arbennig i gyfleoedd chwarae a hamdden sydd ar gael i unrhyw blentyn yn eu cymuned. Maent yn derbyn plant a phobl ifanc 2 i 19 oed ac yn darparu gweithgareddau gwyliau, ar ôl ysgol a thros y penwythnos yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.

Mixtup

Mae 'Mixtup' yn glwb ieuenctid i bobl ifanc 11-25 oed â galluoedd cymysg. Mae 'Mixtup' yn glwb sy'n canolbwyntio ar, ac yn cael ei redeg gan bobl ifanc yn bennaf. Mae'n ceisio rhoi'r pethau y mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc am eu cael i'w aelodau - eu hannibyniaeth a'u rhyddid i ffwrdd o'u cyfrifoldebau beunyddiol, bod yn nhw eu hunain a chael hwyl mewn lleoliad diogel ac ysgogol.
  • Blaenorol tudalen
  • 1
  • 2
  • o 2
  • Nesaf tudalen

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Awst 2021