Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Claddedigaeth Goetir ym Mynwent Ystumllwynarth

Mae man claddu coetir Ystumllwynarth yn cynnig dewis amgen naturiol i ddewisiadau claddu a llosgi confensiynol.

Woodland burial at Oystermouth cemetery Spring

Caiff safle'r coetir ei reoli fel ardal lle caiff coed newydd eu plannu i ategu'r coed aeddfed sydd yno eisoes ac er mwyn cynnal claddedigaethau hefyd. Mae'r ymagwedd hon yn cynnig cyfle i gyfrannu at ansawdd ac iechyd yr amgylchedd naturiol yn y dyfodol, ac wrth wneud hynny, greu cofeb ystyrlon i fywydau a fu. Gall hwn fod yn arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n dod i ddygymod â'u marwoldeb eu hunain neu sy'n gorfod wynebu colled a brofwyd ganddynt.

Bydd pob claddedigaeth yn helpu i wella cynefin y coetir ac mae pob bedd coetir yn rhoi'r cyfle i'r rhai sydd wedi ymadael 'ddychwelyd i natur' a helpu i gyfrannu at ffurfio a chadw coetir naturiol a phrydferth. 

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bobl o bob cred ac enwad ac mae'n cwmpasu gwasanaethau a seremonïau angladd, rhai crefyddol a seciwlar, ac yn darparu ar gyfer anghenion emosiynol ac ysbrydol y rhai sy'n galaru neu'r rhai sy'n dymuno cynllunio ar gyfer y dyfodol yn ystod eu hoes eu hunain.

Mae'r ardal wedi'i chynllunio i alluogi ymwelwyr i werthfawrogi'n llawn harddwch naturiol y coetir ac ar yr un pryd yn cynnig amgylchedd priodol i goffáu a myfyrio'n dawel.

Gan fod hon yn gladdedigaeth sy'n garedig i'r amgylchedd, gofynnwn i bobl ddilyn y canllawiau hyn:

  • Mae'n well defnyddio arch o ddeunydd naturiol. Gall hyn gynnwys cardbord, gwiail neu bren, o ffynhonnell gynaliadwy, ond nid yw'n cynnwys yr arch sglodfwrdd neu MDF arferol. Gellid hefyd ddewis amwisg wlân neu gotwm.
  • Nid ydym yn mynnu bod eirch yn cael eu defnyddio. Gall teuluoedd ddewis amwisg a rhywbeth ymarferol i gludo neu gadw'r corff ar y ffordd i'r ardal goetir, er enghraifft stretsier neu fasged wiail.
  • Rhaid i brawf adnabod yr ymadawedig bob amser fod yn weledol ac ar ffurf plât enw neu blac bach o ffynhonnell gynaliadwy h.y. pren, cardbord, papur etc.
  • Mae'n well nad yw'r corff yn cael ei bêr-eneinio (a elwir yn aml yn driniaeth hylan neu gosmetig gan Drefnyddion Angladdau).
  • Dylid sicrhau cyn lleied o dorchau angladd â phosibl, ac os yw'n bosib dylent fod o ddeunydd sy'n ystyriol o'r ddaear yn hytrach na chynnwys plastig, gwifren neu ddalwyr oasis.
  • Bydd yr Awdurdod yn torri'r glaswellt ddwywaith y flwyddyn - unwaith ar ddechrau'r tymor tyfu ac unwaith ar y diwedd - a gofynnwn i bobl beidio â thorri'r glaswellt eu hunain. Ar adegau, efallai y bydd yn anodd mynd i'r ardal pan fydd y glaswellt yn tyfu'n gryf.
  • Ni ddefnyddir unrhyw chwynladdwyr na chemegau.
  • Caiff yr ardal ei chynnal a'i chadw gan y Cyngor mewn ffordd eithaf anffurfiol; mae cyn lleied o dorri glaswellt â phosib yn annog ac yn diogelu coed, prysglwyn a bywyd gwyllt. Anogir blodau gwyllt. Ni fydd yr olwg daclus a chymen a geir mewn rhannau eraill o Fynwent Ystumllwynarth yn berthnasol i'r ardal hon. Anogir teuluoedd i ystyried hyn yn ofalus cyn dewis claddedigaeth goetir. Mae ardaloedd eraill o Ystumllwynarth neu fynwentydd eraill yn cynnig beddau traddodiadol gyda dewisiadau coffáu rheolaidd.

Caiff yr holl feddi eu cofnodi ar gynllun i alluogi lleoli yn y dyfodol wrth i'r coetir ddatblygu ymhellach. Bydd pob bedd yn cynnwys lle i un gladdedigaeth ag arch yn unig, a/neu gladdu gweddillion ar ôl amlosgi. Caiff pob plot brydles am 99 mlynedd. Ni chaniateir cofebion gwenithfaen na charreg, er ein bod yn ceisio sicrhau y gall teuluoedd fynegi eu galar yn y ffordd maent yn teimlo sydd fwyaf priodol drwy gynnig yr amgylchedd perffaith ar gyfer myfyrio tawel a chofio am eu hanwyliaid.

Claddedigaeth goetir drwy gydol y flwyddyn

Woodland burial at Oystermouth cemetery Summer

Drwy'r gaeaf hyd at ddechrau'r gwanwyn, pan na fydd dail ar lawr, mae'r lefelau golau ar lawr y coetir yn dda. Mae'r amodau'n llaith ac wrth i'r pridd ddechrau cynhesu, mae'r blodau cyntaf yn dechrau ymddangos. Y blodau nodweddiadol ar yr adeg hon yw'r eirlysiau a chennin Pedr gwyllt, yna briallu gwyllt, fioledau a blodau'r gwynt.

Ar ddiwedd y gwanwyn, mae'r pridd yn dal yn llaith ac mae'n parhau i gynhesu. Mae oriau golau dydd yn cynyddu ac mae'r coed yn dechrau cynhyrchu dail newydd. Mae llai o olau'n cyrraedd llawr y coetir nawr, ond mae'n ddigonol ar gyfer rhywogaethau sy'n gallu goddef cysgod megis clychau'r gog, lilïau'r grog a llysiau'r gerwyn.

Wrth i'r haf gyrraedd, mae'r coed yn tyfu'n gryf ac yn amsugno symiau mawr o leithder o'r pridd. Mae'r gorchudd dail yn parhau i gynyddu'n gyflym hyd at bwynt lle mae'r rhan fwyaf o lawr y coetir mewn cysgod. Yn yr amodau hyn, dim ond y planhigion sy'n dwlu ar gysgod a welir. Mae'r rhain yn cynnwys rhedyn a chwerwlys. Mae aeron yn dechrau ymddangos ar lilïau'r grog gwyllt. Gall llawr y coetir ymddangos yn foel ar yr adeg hon. Ar ymylon y coetir a lle mae'r coed wedi cael eu teneuo, ceir digon o olau ar gyfer planhigion sy'n dwlu ar yr haul megis bysedd y cŵn, helyglys hardd, gludlys gwyn a choch, danadl a glesyn y coed.

Mae'r gostyngiad mewn oriau golau dydd a thymereddau aer is yn dechrau'r broses o liwiau'r hydref a'r dail yn syrthio. Ychydig iawn o flodau'r coetir sydd i'w gweld dan yr amodau hyn. Yn lle, gwelir ffwng amrywiol ynghyd ag aeron, ffrwythau a hadau.

Ni chaiff coed eu plannu ar feddau unigol oherwydd gallai hyn arwain at orboblogi. Yn lle, caiff coed eu plannu lle a phryd y bo'r angen ac i ddarparu cymaint o orchudd a lliw drwy'r flwyddyn gron.

Woodland burial at Oystermouth cemetery Autumn

Cyn trefnu claddedigaeth yn adran y coetir rhaid trefnu ymweliad safle â Goruchwyliwr y Fynwent i drafod y rheoliadau unigryw sy'n berthnasol i'r ardal hon. Fföniwch 07980 721559.

Close Dewis iaith