Toglo gwelededd dewislen symudol

Claddedigaeth naturiol ym Mynwent Pontybrenin

Mae'r fynwent ddôl hon yn cynnig dewis amgen naturiol i gladdedigaeth gonfensiynol ac opsiynau amlosgi.

Meadow burial section at Kingsbridge Cemetery

Mae'r rhan hon mewn cornel dawel o fynwent sefydledig lle'r oedd ffermwyr yn arfer defnyddio'r safle fel dôl wair tan yn gynnar yn y 1980au pan gafodd ei adael i fynd yn ôl i natur.

Yn ystod yr amser hwn, ymsefydlodd sawl coeden dderw a bedw yma a phan gafodd yr ardal ei chlirio'n ofalus ychydig flynyddoedd yn ôl, datgelwyd y ddôl unwaith eto ac ymddangosodd blodau a glaswelltau gwyllt; creodd hyn amgylchedd amrywiol gyda thoreth o bryfed, adar a mamaliaid bach yn byw yn y safle.

Er mwyn cynnal bioamrywiaeth cymaint â phosib, dim ond offer llaw sydd wedi cael eu defnyddio i ymgymryd ag unrhyw waith i gynnal y tir. Yn fwy diweddar, torrwyd a chynaeafwyd gwair o'r ddôl a phlannwyd y Ddraenen Wen, coed cyll a chelyn brodorol i gyfoethogi'r cynefin a darparu lloches i'r bywyd gwyllt.

Mae'r ardal wedi'i dylunio i ganiatáu i ymwelwyr werthfawrogi harddwch naturiol y ddôl, wrth gynnig amgylchedd priodol ar gyfer coffáu, myfyrdod a meddwl yn dawel;

Gan fod hwn yn ddull claddu sy'n llesol i'r amgylchedd, gofynnwn i bobl ddilyn y canllawiau canlynol:

  • rhaid defnyddio arch neu gasged o ddeunydd naturiol; gall hyn gynnwys cardbord, gwiail neu bren o ffynhonnell gynaliadwy, ond nid yw'n cynnwys eirch asglodfwrdd neu MDF safonol
  • nid ydym yn mynnu bod eirch yn cael eu defnyddio, felly gall teuluoedd ddewis amwisg wlân neu gotwm; os felly, dylid ystyried defnyddio rhywbeth ymarferol i gludo'r corff i ymyl y bedd, er enghraifft cludwely neu fasged wiail
  • rhaid i hunaniaeth yr ymadawedig fod yn gwbl weladwy ar bob adeg ac wedi'i ddarparu ar ffurf blac bach wedi'i wneud o ffynhonnell gynaliadwy h.y. pren, cardbord, papur etc
  • ni ddylai'r corff gael ei balmeiddio (gelwir hyn yn aml yn driniaeth hylan neu gosmetig gan drefnwyr angladdau) oherwydd defnyddir cemegion i wneud hyn
  • dylid sicrhau bod cyn lleied â phosib o dorchau angladd, a dylent gynnwys deunydd sy'n llesol i'r pridd yn hytrach na chynnwys plastig, gwifrau neu dalwyr oasis
  • cynhelir yr ardal gan y cyngor mewn modd di-ffwdan gan fod peidio â thorri'r gwair yn aml yn annog coed, llwyni, blodau a bywyd gwyllt
  • ni ddefnyddir chwynladdwyr na chemegion yn yr ardal
  • anogir blodau a glaswelltau gwyllt ac felly nid yw'r golwg 'twt a thaclus' traddodiadol a welir mewn rhannau eraill o fynwent Pontybrenin yn berthnasol i'r ddôl
  • dylai teuluoedd ystyried yr opsiwn claddu hwn yn ofalus gan fod rhannau eraill o fynwent Pontybrenin a mynwentydd eraill yn cynnig beddau traddodiadol ac opsiynau coffa arferol, a chynhelir y rhain yn rheolaidd
  • bydd lle ymhob bedd i un arch yn unig, a/neu gladdu llwch
  • cofnodir pob bedd ar gynllun fel y gellir dod o hyd iddynt yn y dyfodol pan fydd y ddôl/coetir yn datblygu
  • dan bolisi cyfredol y cyngor, rhoddir prydles ar gyfer pob llain am gyfnod o 99 mlynedd
  • ni chaniateir cerrig coffa gwenithfaen neu garreg; fodd bynnag, gall y cyngor ddarparu marcwyr pren ar gais
  • ni chaiff coed eu plannu ar feddau unigol oherwydd gallai hyn arwain at orboblogi; yn lle, caiff coed eu plannu lle a phryd y bo'r angen ac i ddarparu cymaint o orchudd a lliw drwy'r flwyddyn gron.

Newidiadau tymhorol yn y ddôl

Drwy'r gaeaf hyd at ddechrau'r gwanwyn, pan na fydd dail ar y coed, mae'r lefelau golau yn y ddôl yn dda. Mae'r amodau'n llaith ac wrth i'r pridd ddechrau cynhesu, mae'r blodau cyntaf yn dechrau ymddangos. Y blodau nodweddiadol a geir ar yr adeg hon yw Eirlysiau, cennin Pedr gwyllt a briallu.

Yn hwyr yn y gwanwyn, mae'r pridd yn dal yn llaith ac yn parhau i gynhesu; mae oriau golau ddydd yn cynyddu ac mae'r coed yn dechrau cynhyrchu dail newydd. Mae llai o oleuni'n cyrraedd llawr y ddôl, ond mae digon i sicrhau bod mathau sy'n gallu goddef cysgod yn ffynnu.

Wrth i'r haf gyrraedd, mae'r coed yn tyfu'n gryf ac yn amsugno symiau mawr o leithder o'r pridd. Mae'r gorchudd dail yn parhau i dewychu'n gyflym ac yn lleihau lefelau goleuni ar lawr y ddôl; Yn yr amodau hyn, dim ond planhigion sy'n dwlu ar gysgod a welir h.y. rhedyn a llaethlys y coed.

Mae'r gostyngiad mewn oriau golau dydd a thymereddau aer is yn dechrau'r broses o liwiau'r hydref a'r dail yn syrthio; ychydig iawn o flodau a welir yn yr amodau hyn ac yn lle, mae ffwng amrywiol i'w gweld ynghyd ag aeron, ffrwythau a hadau.

 

Cyn trefnu claddedigaeth yn adran y ddôl rhaid trefnu ymweliad safle â Goruchwyliwr y Fynwent i drafod y rheoliadau unigryw sy'n berthnasol i'r ardal hon. Ffoniwch 01792 892836 / 07980 721561.

Close Dewis iaith