Toglo gwelededd dewislen symudol

CLIP Cymru

CLIP Cymru yn adnodd arlein am ddim sy'n darparu mynediad digynsail i gasgliadau clyweledol hanesyddol unigryw a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

NLW Logo

Adnodd ar-lein am ddim yw Clip Cymru sy'n darparu mynediad at Archif Ddarlledu Cymru - casgliad hanesyddol, unigryw o gofnodion clyweledol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r prosiect yn bwriadu cael dros 400,000 o eitemau o ddeunydd radio a theledu o Gymru, yn dyddio'n ôl i'r 1930au, yn ogystal â channoedd o ffilmiau o'r Archif Sgrîn a Sain, sy'n dyddio'n ôl i 1898. Mae deunydd newydd yn cael ei ychwanegu at y casgliad yn aml.

Gan ddod â deunydd darlledu helaeth o gasgliadau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C ynghyd, mae'r Archif Ddarlledu'n cynnwys cofnodion ar gyfer bron degawd o fywyd yng Nghymru, gan gynnig mewnwelediad unigryw i hanesion a diwylliannau Cymru. Drwy ddiogelu, catalogio a digideiddio'r deunyddiau hyn a'u cyflwyno ar wefan y gellir ei chwilio'n llawn, bydd y casgliad rhagorol hwn ar gael i bawb.

Clip Corner Welsh

O hanes yr Ail Ryfel Byd i drychineb Aberfan; o'r ymgyrch Datganoli i streic y Glowyr; o lwyddiannau chwaraeon enwog i adloniant y Noson Lawen, mae Clip Cymru'n rhoi ciplun hanesyddol o Gymru'r 20fed ganrif a thu hwnt.

Mae'r prosiect yn darparu mynediad cyhoeddus at y casgliad helaeth hwn drwy Corneli Clip, sydd ar gael ar draws Cymru, ac mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn falch o fod yn un o'r Corneli Clip cyntaf i agor yng Nghymru, ac i ddarparu mynediad cyhoeddus at y casgliad helaeth hwn o ddarllediadau radio a ffilm.

Sut i gael mynediad at y casgliad.

Gallwch gael mynediad at yr Archif Ddarlledu unrhyw bryd yn ystod ein horiau agor. Gallwch archebu slot ymlaen llaw i ddefnyddio'r Archif Ddarlledu, drwy e-bost neu dros y ffôn. Gallwch ddod o hyd i'n manylion ar ein gwe-dudalen Cysylltu ag Archifau Gorllewin Morgannwg. (Argymhellir i chi drefnu slot awr gan ein bod yn rhagweld y bydd galw mawr am y gwasanaeth hwn).

Gallwch ddefnyddio a chwilio'r wefan am ddim, ond i wylio neu wrando ar unrhyw un o'r clipiau bydd angen naill ai docyn darllen Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu fydd angen i chi gwblhau cofrestriad ar-lein ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gael eich rhif tocyn darllen. Gallwch wneud hyn ymlaen llaw gartref, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Tocynnau Darllen, neu yma yn y Cornel Clip.

Gallwch chwilio gwefan Clip Cymru cyn i chi ymweld i weld yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.

Dylech ddod â'ch clustffonau eich hunan i'w defnyddio (dim clustffonau Bluetooth, setiau gwifrog yn unig).

Am ragor o wybodaeth am y casgliad, ewch i we-dudalen Llyfrgell Genedlaethol Cymru am yr Archif Ddarlledu.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Gorffenaf 2023