Cludian cymunedol
Mae Cludiant Cymunedol yn darparu cyfleoedd teithio i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus arferol, neu sy'n byw mewn ardal nad yw'n cael ei gwasanaethu'n aml gan gludiant cyhoeddus, neu'r rheiny ag anabledd.
Gall gael ei ddefnyddio hefydd gan bobl sydd wedi'u hynysu'n gymdeithasol na allant gaeel mynediad i wasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus sylfaenol, megis gwasanaethau gofal iechyd, cyflogaeth a hyfforddiant.
Mae rhai gwasanaethau'n cynnwys gweithlu o wirfoddolwr ymroddedig sy'n rhoi o'u hamser i helpu pobl eraill drwy ddarparu gwasanaethau cludiant. Mae pob un yn gweithredu mewn ffordd sy'n fwyaf addas i'w ardal leol a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Mae pump cynllun Cludiant Cymunedol y mae rhai ohonynt yn darparu gwasanaeth hurio bws mini, gwasanaethau deialu am reid, cynlluniau car gwirfoddol ac olwynion i'r gwaith , y maent i gyd yn gweithredu yn y fwrdeistref sirol. Dyma fanylion amdanynt.
Mae pump cynllun Cynlluniau cludiant cymunedol y mae rhai ohonynt yn darparu gwasanaeth hurio bws mini, gwasanaethau deialu am reid, cynlluniau car gwirfoddol ac olwynion i'r gwaith , y maent i gyd yn gweithredu yn y fwrdeistref sirol. Dyma fanylion amdanynt.