Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Clwb gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol (brecwast a / neu glwb ar ol ysgol)

Mae clybiau gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol yn gofalu am blant rhwng 4 a 14 oed.

Mae clybiau'n gweithredu union cyn a/neu ar ol y diwrnod ysgol.  Gall plant 3 oed fynychu'r clwb, ond mae hyn yn dibynnu ar y math o gofrestriad ac yswiriant sydd gan y clwb.

Mae clyubiau'n lleoedd hwyl, diogel ac ysgogol i blant chwarae er mwyn i'w rhieni/gofalwyr weithio neu hyfforddi.  Gellir darparu brecwast i blant yn y bore neu fyrbryd yn y prynhawn ac mae'n rhaid i'r plant gael diodydd yn rheolaidd.

Fel arfer caiff clybiau gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol eu cynnal mewn ysgolion neu adeiladau cymunedol, a gallant fod dan reolaeth ysgol, pwyllgor rheoli gwirfoddol neu unigolion fel busnes preifat.

Rheoli'r clwb y tu alla i oriau'r ysgol

Mae'n rhaid i reolwr clwb gael o leiaf 2 flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal dydd a chymhwyster lefel 3 cydnabyddedig gan Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Cyngor Gofal Cymru (e.e. addysg blynyddoedd cynnar neu waith chawarae priodol i'r swydd ac oedran y plant).

Y staff:

  • Dylai 50% o'r staff sy'n weddill fod a chymhwyster gofal plant lefel 2 gan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.  Os na ellir cyflawni hyn ar unwaith, bydd y person cofrestredig yn amlinellu cynllun gweithredu yn manylu ar sut maent yn bwriadu bodloni'r meini prawf a chytuno ar amserlen i'w gyflawni. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd) yn ystyried y cynllun ac yn cynnig ei gymeradwyaeth neu'n nodi agweddau y mae angen eu gwella.
  • Mae'n rhaid i'r holl staff dderbyn datgeliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).

Mae clybiau gofal plant y tu allan i oriau'r ysgol fel arfer yn aelodau o Glybiau Plant Cymru Kids' Clubs (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith