Toglo gwelededd dewislen symudol

Cludiant o'r cartref i'r ysgol - cod ymddygiad

Bwriad y Cyngor yw darparu cludiant ar gyfer dysgwyr lle mae ganddo gyfrifoldeb statudol i wneud hynny ar gyfer disgyblion/myfyrwyr i deithio yn ôl ac ymlaen o le perthnasol yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru).

Bydd natur y cludiant a ddarparwyd gan y Cyngor ar ffurf mae'r Cyngor yn ei ystyried na fydd yn achosi gofid, straen nag anhawster i'r graddau a fyddai'n atal disgyblion/myfyrwyr rhag elwa o'r addysg sydd ar gael. Dylai disgyblion/myfyrwyr fod yn gallu teithio'n ddiogel ac yn gymharol gysurus. Byddwn yn cymryd camau rydym yn eu hystyried yn angenrheidiol i fodloni ein hunain o addasrwydd y cerbydau a'r gyrwyr/cynorthwywyr teithwyr.

  • Bydd gan rieni, ysgolion/colegau a chontractwyr fynediad at gyngor a chymorth yn ystod oriau swyddfa.
  • Lle bynnag y bo'n bosibl, bydd cardiau teithio'n cael eu dosbarthu o fewn 10 diwrnod gwaith yn dilyn cais cymeradwy.
  • Bydd y Cyngor yn sicrhau y bydd unrhyw offer arbennig, fel harneisiau neu seddau, yn cael eu darparu gan naill ai'r Cyngor neu'r gweithredwr os ystyrir hyn yn angenrheidiol.
  • Bydd amserau teithiau ysgol yn cael eu cynllunio i fod mor fyr â phosibl, yn amodol ar ddarparu gwasanaeth effeithlon a chost effeithiol.
  • Bydd y Cyngor yn hwyluso gwiriadau manylach y Swyddfa Cofnodion Troseddol a chofrestriad Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA) er mwyn sicrhau bod gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr yn addas ar gyfer swydd sy'n cynnwys cludo plant.
  • Bydd bathodynnau adnabod yn cael eu paratoi a'u dosbarthu i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr cymeradwy.
  • Bydd diogelwch a safon gwasanaethau cludiant ysgol a llwybrau'n cael eu monitro yn rheolaidd.
  • Mae'n bosibl y bydd teledu cylch cyfyng (CCTV) yn cael eu gosod ar gerbydau a ddefnyddir ar gyfer cludiant ysgol. Bydd y darnau ffilm yn cael eu trin yn gyfrinachol, ond gellir eu defnyddio fel tystiolaeth mewn achosion o gamymddwyn neu gamymddygiad.
  • Byddwn yn cydweithio gyda'r contractwyr, rhieni, disgyblion/myfyrwyr a'r ysgolion/colegau i ddatrys unrhyw broblemau ymddygiad sy'n codi ar wasanaethau cludiant ysgolion/colegau.
  • We will work with the contractors, parents, pupils / students and the schools / colleges to resolve any behavioural problems which may arise on school / college transport services.
  • Mae angen rhoi gwybod i'r Cyngor sy'n darparu'r cludiant am unrhyw ddigwyddiadau ar eu gwasanaeth Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol/Coleg.
  • Bydd y Cyngor yn cadw log o'r holl ddigwyddiadau a gofnodwyd, yn archwilio pob digwyddiad ochr yn ochr â'r ysgol ac unrhyw barti perthnasol arall gan gymryd mesurau pellach lle y bo'n briodol.

Cod ymddygiad rhieni

  • Mae rhieni, gwarcheidwaid a/neu ofalwyr yn gyfrifol am annog ymddygiad da a sicrhau bod eich plentyn yn cydymffurfio â Chod Ymddygiad wrth Deithio Llywodraeth Cynulliad Cymru. Felly, disgwylir i chi gefnogi'r Cyngor, yr ysgolion/colegau, a'r gweithredwyr a'u staff i gynnal ymddygiad da.
  • Os yw eich plentyn yn rhan o ymddygiad gwael ar gludiant ysgol byddwch yn cael gwybod am y broses ddisgyblu cyn gynted ag y bo modd.
  • Dylai fod yn hollol glir o'r cychwyn, mewn achosion o ymddygiad gwael y cam eithaf fyddai dwyn yr hawl i dderbyn cludiant oddi arnoch. Yn yr achosion hyn, chi fydd yn gyfrifol wedyn am drefnu cludiant a thalu'r gost lawn amdano.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau diogelwch eich plentyn o'ch cartref i'r cludiant ysgol yn y boreau ac yn dod yn ôl oddi arno yn y nosweithiau. Felly dylid gwneud trefniadau goruchwyliaeth briodol, yn enwedig ar gyfer disgyblion cynradd.
  • Dylai eich plentyn adael y tŷ yn y boreau mewn digon o amser i gyrraedd y bws fel nad oes angen brysio, yn enwedig os oes angen croesi ffyrdd.
  • Yn ogystal, dylech sicrhau bod eich plentyn yn gwisgo dillad priodol.
  • Yn y nosweithiau, dylai plentyn sydd angen croesi'r ffordd ar ôl dod oddi ar y bws, aros nes i'r bws yrru i ffwrdd cyn ceisio croesi'r ffordd fel eu bod yn gallu gweld y traffig a chael eu gweld. Os ydych yn cwrdd â'ch plentyn, dylech aros wrth yr arhosfan, ac nid yr ochr arall o'r ffordd.
  • Fel rheol, yn y prynhawn bydd disgybl cynradd yn cael ei ollwng ger ei arhosfan benodedig. Os digwydd unrhyw newidiadau i'r trefniadau arferol, am ba reswm bynnag, dylech roi gwybod i'r gyrrwr neu'r cynorthwyydd teithwyr (os oes un).
  • Rhowch wybod i Uned Cludiant y Cyngor am unrhyw gyflwr meddygol sydd gan eich plentyn a fyddai, o bosibl, yn effeithio ar ei gludiant/ei chludiant.
  • Rhowch wybod yn syth i Uned Cludiant y Cyngor am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau, fel newid yn eich cyfeiriad. Os nad oes bellach arnoch angen eich cerdyn bws, rhaid i chi ei ddychwelyd i'r Cyngor ar unwaith. Mae'n bosibl y byddai defnyddio'r cerdyn bws pan nad yw bellach yn ddilys yn cael ei ystyried yn dwyll.
  • Mewn achosion o dywydd garw neu amgylchiadau anrhagweledig, y mae'n bosib y ceir newidiadau dros dro i'r drafnidiaeth a ddarperir. Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd yn bosib gweithredu taith o gwbl, neu fe weithredir rhan o'r daith yn unig.
  • Os nad yw llwybr trafnidiaeth ysgol/coleg yn gweithredu yn y bore o ganlyniad i gyflyrau tywydd garw, ond eich bod yn dewis mynd â'ch plentyn/plant i'r ysgol dros eich hunain, yna bydd gofyn i chi wneud trefniadau i gasglu eich plant/plentyn ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
  • Mae cardiau teithio'n gostus a byddwn yn codi tâl am eu hadnewyddu. Dylid rhoi gwybod ar unwaith i Uned Cludiant y Cyngor os ydych yn colli eich cerdyn teithio, a byddant yn eich cynghori ynglŷn â sut i gael un yn ei le.
  • Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynglŷn â sut y gellir gwella ein Cod Ymddygiad, anfonwch eich adborth at y Cyngor sy'n darparu'r cludiant.

 


 

Gwnewch bob taith yn un dda dilynwch y cod teithio

Cod ymddygiad wrth deithio

Mae'n bwysig iawn i chi fod yn ddiogel. Rhaid i chi ymddwyn yn gyfrifol ac yn ddiogel wrth deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol neu'r coleg, sut bynnag y byddwch yn gwneud hynny - ar fws, trên, beic, cerdded neu unrhyw ffordd arall. Os ydych yn dal bws i'r ysgol neu'r coleg, mae'n rhaid i chi hefyd ddilyn y rheolau yn y Cod Ymddygiad wrth Deithio ar Fws Ysgol.

Os na fyddwch yn dilyn y Cod yma, er mwyn i chi a phobl eraill fod yn ddiogel, gall awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau ddod ag achos yn eich erbyn. Gallai hyn olygu colli eich hawl i ddefnyddio trafnidiaeth ysgol, a hyd yn oed eich gwahardd o'r ysgol.

Eich cyfrifoldeb

  • Cofiwch barchu pobl eraill, gan gynnwys dysgwyr eraill, gyrwyr a'r cyhoedd.
  • Cofiwch barchu cerbydau ac eiddo.
  • Byddwch yn gwrtais bob amser.
  • Peidiwch byth â thaflu sbwriel.
  • Cofiwch ufuddhau'r gyfraith bob amser.

Eich diogelwch

  • Cofiwch ymddwyn yn dda wrth deithio.
  • Cofiwch ddilyn cyfarwyddiadau'r gyrwyr wrth deithio.
  • Peidiwch â thynnu sylw'r gyrwyr.
  • Croeswch y ffordd yn ddiogel ac yn synhwyrol.
  • Teithiwch ar lwybr dio gel bob amser.

Eich hawliau

  • Bod yn ddiogel wrth deithio.
  • Cael eich trin yn deg a gyda pharch.
  • Dweud wrth rywun os oes rhywun neu rywbeth yn creu trafferth i chi.
  • Peidio â chael eich bwlio na chael unrhyw un yn pigo arnoch chi.

Dywedwch wrth athro, rhiant neu yrrwr am unrhyw ymddygiad gwael neu fwlio rydych chi'n ei weld.

Y cod teithio ar fws ysgol

  • Yn y safle bysus, arhoswch am y bws yn drefnus, gan gadw oddi ar y ffordd.
  • Cytunwch gyda'ch rhieni beth ddylech ei wneud os na fydd y bws yn cyrraedd neu os byddwch yn colli'r bws.
  • Pan fydd y bws yn cyrraedd, arhoswch iddo stopio. Peidiwch byth â gwthio na rhuthro am y drws.
  • Dangoswch eich pas bws (os ydych wedi cael un) wrth i chi fynd ar y bws.
  • Ar fws ysgol, arhoswch yn eich sedd nes i chi gyrraedd pen y daith.
  • Ar fws cyhoeddus, dewch o hyd i sedd os oes un ar gael.
  • Peidiwch byth â chreu rhwystr yn yr eil gyda'ch bag neu eiddo arall.
  • Gwisgwch wregys diogelwch bob amser os oes un ar gael.
  • Peidiwch â thynnu sylw'r gyrrwr pan fydd yn gyrru.
  • Peidiwch â bwyta nac yfed ar y bws.
  • Peidiwch byth â thaflu unrhyw beth yn y bws nac oddi ar y bws.
  • Peidiwch byth â difrodi na fandaleiddio'r bws.
  • Peidiwch byth ag agor drysau neu a llanfeydd y bws ac eithrio mewn argyfwng.
  • Dilynwch gyfarwyddiadau'r gyrrwr neu'r cynorthwyydd teithwyr.
  • Os bydd damwain, arhoswch ar y bws nes i chi gael cyfarwyddiadau i adael. Os yw'n beryglus i aros ar y bws, ewch allan drwy'r allanfa fwyaf diogel.
  • Peidiwch byth â cheisio mynd ar neu oddi ar y bws nes bydd wedi stopio.
  • Ewch oddi ar y bws yn drefnus, gan fynd â'ch holl eiddo gyda chi.
  • Peidiwch byth â chroesi'r ffordd o flaen nac yn agos at gefn y bws.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Gorffenaf 2022