Coed mewn ardaloedd cadwraeth
Mae coed yn nodweddion gwerthfawr yn ein trefi a'n cefn gwlad a gallant wneud cyfraniad pwysig i gymeriad ac ymdeimlad o le ein hamgylchedd lleol.
Coed sy'n cael eu gwarchod mewn ardal gadwraeth:
- gwarchodir pob coeden â diamedr coesyn o 75mm neu fwy ac wedi'i mesur ar bwynt 1.5m uwchben lefel y tir o fewn
- coed unigol a warchodir dan Orchymyn Cadw Coed
Mae angen rhoi chwe wythnos o rybudd i'r cyngor am unrhyw gynnig i dorri a thocio coed o fewn ardal gadwraeth nad ydynt eisoes wedi'u gwarchod gan GCC. Gellir gwneud hyn yn yr un ffordd â gwneud cais i wneud gwaith ar goeden a warchodir dan GCC: Ymgymryd â gwaith ar goeden a warchodir.
Ar ôl derbyn hysbysiad o'r fath, bydd y cyngor yn edrych ar y goeden, gan benderfynu a fydd y gwaith a gynigiwyd yn andwyol i gymeriad a golwg yr ardal gadwraeth.
Os rydym yn ystyried y bydd y gwaith yn peri niwed i'r ardal gadwraeth, byddwn yn ceisio atal y gwaith neu'i reoli drwy greu GCC.
Os na wneir GCC o fewn y cyfnod o chwe wythnos, yna gall y gwaith fynd yn ei flaen yn unol â'r hysbysiad. Gallwn greu GCC ar unrhyw adeg ar ôl i'r cyfnod o 6 wythnos ddod i ben cyn dechrau unrhyw waith.
Mae peidio â rhoi gwybod i ni am unrhyw waith ar goeden a warchodir cyn ymgymryd â'r gwaith hwnnw yn drosedd a gall arwain at gosb i'r sawl sy'n gysylltiedig yn dilyn erlyniad llwyddiannus.
Ceir eithriadau tebyg i'r rhai ar gyfer coed a warchodir gan GCC sy'n caniatau gwaith ar goed mewn ardaloedd cadwraeth.