Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofnodion bioamrywiaeth

Mae'n ofynnol cyflwyno gwybodaeth ecolegol gyda llawer o geisiadau cynllunio. Mae'r Cyngor yn cefnogi'r ymagwedd arfer gorau at rannu'r wybodaeth ecolegol hon â'r ganolfan cofnodion bioamrywiaeth leol - SEWBReC (Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru).

Mae'r ymagwedd hon yn gwella ansawdd yr wybodaeth ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol. Cynghorir ymgeiswyr a'u hecolegwyr yn gryf felly i gynnwys y cymal hwn yn eu contract:

"Mae ymgeiswyr a'u hymgynghorwyr yn cytuno i fynd ati'n rhagweithiol i rannu unrhyw gofnodion bioamrywiaeth a wnaed yn ystod proses arfarniad ecolegol â SEWBReC ar yr un pryd a chyflwyno adroddiad i'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae'r cyngor yn ystyried bod holl rannau'r adroddiadau ecolegol a gyflwynir iddo fel rhan o'r broses gynllunio nad ydynt wedi'u nodi'n benodol yn rhai sensitif, yn gyhoeddus.

Anogir aelodau o'r cyhoedd hefyd i gyflwyno cofnodion planhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys rhywogaethau estron goresgynnol, y maent yn eu gweld yn Abertawe. Mae hyn yn helpu i adeiladu gwell darlun o ddosbarthiad rhywogaethau ar draws Abertawe, sydd wedyn yn helpu'r cyngor i wneud penderfyniadau.

Close Dewis iaith