Ffïoedd cyrsiau a chofrestru Dysgu Gydol Oes
Bydd y broses gofrestru ar-lein ar gyfer tymor yr Hydref 2024 yn agor mewn tri cham.
Dydd Mercher 28 Awst 2024 am 9.30am
TG a Llythrennedd Digidol - Mae'r holl gyrsiau yn yr adran hon am ddim.
Dydd Mercher 4 Medi 2024 am 9.30am
Celf a Chrefft - Codir ffi o £30 ar gyfer yr holl gyrsiau yn yr adran hon gan gynnwys dosbarthiadau ar-lein.
Ffotograffiaeth Digidol - Codir ffi o £30 ar gyfer yr holl gyrsiau yn yr adran hon gan gynnwys dosbarthiadau ar-lein.
Iechyd a Lles - Codir ffi o £30 ar gyfer cyrsiau wyneb yn wyneb yn unig, mae dosbarthiadau ar-lein am ddim.
Crefft Nodwydd a Creu Dillad - Codir ffi o £30 ar gyfer yr holl gyrsiau yn yr adran hon.
Dydd Mercher 11 Medi am 9.30am
Cerddoriaeth ac iaith - Gweler y cyrsiau unigol am brisiau.
Trefnu Blodau a Flodeuwriaeth - Codir ffi o £30 ar gyfer yr holl gyrsiau yn yr adran hon.
Coginio a Diogelwch Bwyd - Mae'r holl gyrsiau yn yr adran hon am ddim.
Cyrsiau ymarferol - Gweler y cyrsiau unigol am brisiau.
Bydd ein staff ar gael i'ch helpu i gofrestru'n bersonol yn ystod y diwrnodau cofrestru:
Yr ARC, Broughton Avenue, Portmead, Swansea SA5 5JS neu ffoniwch 01792 637101
Sylwer y cyntaf i'r felin gaiff cofrestru ac nid yw cofrestru'n bersonol neu dros y ffôn yn sicrhau eich lle.
Arôl cofrestru ar-lein, byddwn yn cysylltu dysgwyr drwy e-bost i gadarnhau eu le.
Gellir tynnu neu derfynu dosbarthiadau nad ydynt yn hyfyw.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddarparu eu deunyddiau, cynhwysion, gwerslyfrau a deunydd ysgrifennu eu hunain.
Rydym yn cadw'r hawl i gyfyngu mynediad i ddosbarthiadau sydd â galw mawr.