Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.
Os oes gennych gwmni trin gwallt neu farbwr, dylech fod wedi cofrestru gyda ni. Mae hyn yn wir am siopau a busnesau teithiol.
Efallai y byddwn yn archwilio'ch eiddo os ydych wedi gwneud cais er mwyn gwirio ei fod yn bodloni canllawiau iechyd a diogelwch. Cewch archwiliad rheolaidd ar ôl i'r cais gael ei gymeradwyo.
Mae'n rhaid i chi lenwi pob rhan o'r cais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen.
Cydsyniad mud
Mae gennym gyfnod cwblhau targed, sef 40 niwrnod ar gyfer yr hysbysiad hwn. Rydym yn ceisio cydnabod eich cais a dechrau ei brosesu o fewn y cyfnod hwn. Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl 40 niwrnod, cewch weithredu fel pe bai'ch cais wedi'i ganiatáu.
Sylwer bod y cyfnod targed hwn ond yn dechrau ar ôl cael cais cyflawn, gan gynnwys dogfennau ategol a thâl.
Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk.