Coleg adfer CREST
Mae'r coleg adfer yn defnyddio ymagwedd addysgol i'ch cefnogi i gael bywyd ystyrlon yn seiliedig ar yr hyn y mae adfer yn ei olygu i chi.
Mae'r coleg yn cynnig cyrsiau sy'n seiliedig ar eich cryfderau i hyrwyddo lles a galluogi gobaith, rheolaeth a chyfle. Rydym yn cynnig cyrsiau gan gynnwys rheoli pryder, ymlacio ac ymdopi â cholled.
Caiff yr holl gyrsiau eu cyd-gynhyrchu a'u cyd-ddarparu gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol a phobl a chanddynt brofiad byw o anawsterau iechyd meddwl.
Mae'r Coleg Adfer yn darparu amgylchedd dysgu a rennir rhwng y rheini a chanddynt brofiad byw a'r rheini sy'n cynnig eu cefnogaeth. Caiff nodau adfer personol eu harchwilio.
Mae'r cyrsiau hyn hefyd yn agored i ofalwyr er mwyn eu galluogi i gael dealltwriaeth well o anwyliaid a chanddynt heriau iechyd meddwl. Gall fod angen tystiolaeth o gyfrifoldebau gofalu i gofrestru.
Pwy all gael mynediad:
- Unigolion â chyflwr iechyd meddwl.
- Gofalwyr pobl â chyflwr iechyd meddwl.
Atgyfeiriadau Coleg Adfer:
Gall y rhai sydd â diddordeb anfon ffurflen gofrestru drwy e-bost at crestrecoverycollege@abertawe.gov.uk neu ei gollwng yn CREST. Mae ffurflenni ar gael yn CREST neu gellir eu hanfon atoch drwy e-bost.