Toglo gwelededd dewislen symudol

Oedolion ag anabledd

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn helpu ac yn annog oedolion anabl i fyw mor annibynnol â phosib gartref, cael cyfleoedd i fynd yma ac acw a dod o hyd i ffyrdd o addasu i'w nam.

Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol roi cyngor arbenigol, cefnogaeth a chymorth ymarferol i oedolion ag anabledd corfforol neu synhwyraidd sy'n cael trafferth ymdopi.

Gall gwasanaethau gynnwys:

  • cyfarpar ac addasiadau i helpu rhywun i ymdopi gartref;
  • hyfforddiant a sgiliau i fwyafu annibyniaeth;
  • cymorth gyda gofal personol.

Cyn i chi allu cael unrhyw un o'r gwasanaethau hyn, byddai'n rhaid i ni gynnal asesiad o'ch anghenion.

Oedolion â nam synhwyrol

Gwybodaeth ac arweiniad i bobl â nam synhwyraidd, gan gynnwys y rheini sy'n colli eu golwg neu glyw a'r rheini sy'n fyddarddall (nam ar ddau synnwyr).

Oedolion ag anabledd dysgu

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu.

Oedolion â nam corfforol neu nam ar eu symudedd

Gwybodaeth i bobl sydd â nam corfforol neu symudedd.

Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion

Sut mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn asesu'ch anghenion gofal a chefnogaeth.
Close Dewis iaith