Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)

Mae Cronfa COAST yn adeiladu ar rowndiau blaenorol COAST a'i rhagflaenwyr. Mae'n ceisio darparu gweithgareddau am ddim neu fforddiadwy i bobl sy'n preswylio neu'n cael eu cefnogi yn Abertawe.

Bydd y gronfa'n targedu'n benodol weithgareddau i blant, pobl ifanc a theuluoedd a'r rheini sy'n 50 oed ac yn hŷn, prosiectau sy'n gwella hygyrhedd neu'n gwella cynhwysiad cymdeithasol.

Ariennir Cronfa Grantiau Gweithgareddau COAST gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Argaeledd cyllid

Mae cyllid ar gael i gyflwyno gweithgareddau rhwng 20 Gorffennaf 2024 ac 30 Medi 2024.

Swm cyfyngedig o gyllid sydd ar gael ac rydym yn disgwyl proses gystadleuol iawn.

Gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer refeniw neu eitemau cyfalaf bach sy'n werth llai na £5000

Mae dyfodol y gronfa yn ansicr, felly byddwn yn chwilio am strategaeth ymadael gadarn a gwybodaeth am sut y gallwch gynnal y gweithgaredd unwaith y bydd y cyllid wedi dod i ben.

Meini prawf COAST

Nod COAST yw rhoi'r cyfle i grwpiau oedran a dargedir gael mynediad at weithgareddau am ddim sy'n ceisio cefnogi eu datblygiad a'u lles, gall hyn gynnwys darparu bwyd ochr yn ochr âr gweithgareddau er mwyn mynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau.

I gyflawni hyn, rydym yn darparu cyllid i gyflwyno cyfleoedd a gweithgareddau sydd:

  • Am ddim/fforddiadwy i bobl sy'n gymwys ar eu cyfer.
  • Yn hawdd eu cyrchu ac yn cael eu cynnal o fewn cymunedau lleol.
  • Yn briodol i oedran.
  • Yn cefnogi mynediad cyfartal i bobl o bob gallu.

Amlinellir rhai ystyriaethau isod:

  • Sicrhau bod rhaglen gynhwysol a chytbwys o weithgareddau sy'n briodol i oedran, y gall pawb sydd am gymryd rhan gael mynediad atynt yn hawdd.
  • Darparu mynediad cyfartal.
  • Cynnig amrywiaeth o weithgarddau chwarae, chwaraeon, diwylliannol ac eraill mewn amrywiaeth o leoliadau.
  • Lle bynnag y bo modd, dylid cynnal gweithgareddau mewn lleoliadau hygyrch y gellir eu cyrraedd ar droed neu ar gludiant cyhoeddus.
  • Dylai ceisiadau ar gyfer prosiectau a gyflwynir gan ddarparwyr / grwpiau / glybiau presennol fod yn ychwanegol at weithgareddau neu ddarpariaeth.
  • Bydd ceisiadau ar gyfer gweithgareddau rheolaidd grŵp gyda'i garfan sefydledig yn aflwyddiannus.
  • Ni fydd teithiau y tu allan i ardal Abertawe'n gymwys am gyllid.

Caiff ceisiadau eu cymeradwyo ar gyfer grwpiau sy'n meddu ar y canlynol ac yn ei ddarparu'n unig:

  • Dogfennau neu gyfansoddiad llywodraethu cyfredol.
  • Cyfrif banc busnes priodol.
  • Cyfrifon archwilliedig - neu os yw'n grŵp newydd, cyfriflenni banc cyfredol.
  • Polisïau Diogelu priodol - Diogelwch Plant, Oedolyn Agored i Niwed, anabledd a/neu unrhyw ofynion diogelu priodol eraill.
  • Polisïau Corfforaethol priodol - Cydraddoldeb, Y Gymraeg, amgylcheddol.

Cysylltwch â Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe gydag unrhyw ymholiadau am y rhestr uchod.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais 20 Mehefin 2024 am 5.00pm

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried. 

Asesir pob cais yn erbyn y meini prawf uchod gan banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor a'r trydydd sector. Bydd y panel yn ceisio ystod amrywiol o weithgareddau hygyrch sy'n cynnig gwerth am arian ac sy'n denu cynulleidfaoedd newydd i brofiadau newydd.

Os bydd gormod o geisiadau am arian, rhoddir blaenoriaeth i'r prosiectau hynny mewn meysydd angen a dargedir - nodweddion daearyddol a gwarchodedig.

Mae penderfyniad y Panel yn derfynol; ni chaiff apeliadau eu hystyried.

Bwriadwn roi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus yn ystod wythnos 1 Gorffennaf 2024.

Rhaid i'r holl gyllid a ddyfarnwyd gael ei wario, a'r prosiect gael ei gwblhau erbyn 30 Medi 2024.

Mae monitro yn un o ofynion y cyllid hwn. Darperir gwybodaeth i'r ymgeiswyr llwyddiannus. Byddwch yn ymwybodol y bydd angen casglu data ar sail sesiynol.

Bydd angen i'r holl ddeunydd fel gwedudalennau a phosteri ddefnyddio'r logos cywir. Rhoddir cyfarwyddiadau brandio i ymgeiswyr llwyddiannus a bydd yn rhaid eu dilyn.

Os oes angen y ffurflen gais hon mewn fformat arall, cysylltwch â: GrantiauPaCh@abertawe.gov.uk


Gwneud cais am gronfa COAST 2024 Cronfa Grant Gweithgareddau COAST Haf 2024

Sicrhewch eich bod yn cyfeirio at feini prawf COAST wrth lenwi'r ffurflen.

Bydd angen i chi ddarparu crynodeb o'r rhaglen arfaethedig gan gynnwys yr hyn rydych yn bwriadu'i gyflwyno a pham y bydd y grant yn helpu, gyda manylion nifer y cyfranogwyr rydych yn eu disgwyl, sut mae'n ychwanegol at yr hyn rydych yn ei wneud nawr, sut byddwch yn targedu cyfranogwyr newydd (gan gynnwys sut byddwch yn annog y rheini mewn grwpiau blaenoriaeth i gymryd rhan), ynghyd â thystiolaeth o angen.

Mae angen gwybodaeth ariannol arnom hefyd sy'n cynnwys y dadansoddiad o gost (ar gyfer pob eitem) ynghyd â'r cyfanswm rydych yn gwneud cais amdano.

Gallwch gadw'ch cynnydd ar unrhyw bwynt, a fydd yn caniatáu i chi ddychwelyd i'ch cais os bydd angen i chi ddod nôl iddo.

Close Dewis iaith