Cronfa COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)
Mae Cronfa COAST yn adeiladu ar rowndiau blaenorol COAST a'i rhagflaenwyr. Mae'n ceisio darparu gweithgareddau am ddim neu fforddiadwy i bobl sy'n preswylio neu'n cael eu cefnogi yn Abertawe.
Bydd y gronfa'n targedu'n benodol weithgareddau i blant, pobl ifanc a theuluoedd a'r rheini sy'n 50 oed ac yn hŷn, prosiectau sy'n gwella hygyrhedd neu'n gwella cynhwysiad cymdeithasol.
Ariennir Cronfa Grantiau Gweithgareddau COAST gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Argaeledd cyllid
Mae cyllid ar gael i gyflwyno gweithgareddau rhwng 20 Gorffennaf 2024 ac 30 Medi 2024.
Swm cyfyngedig o gyllid sydd ar gael ac rydym yn disgwyl proses gystadleuol iawn.
Gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer refeniw neu eitemau cyfalaf bach sy'n werth llai na £5000
Mae dyfodol y gronfa yn ansicr, felly byddwn yn chwilio am strategaeth ymadael gadarn a gwybodaeth am sut y gallwch gynnal y gweithgaredd unwaith y bydd y cyllid wedi dod i ben.
Meini prawf COAST
Nod COAST yw rhoi'r cyfle i grwpiau oedran a dargedir gael mynediad at weithgareddau am ddim sy'n ceisio cefnogi eu datblygiad a'u lles, gall hyn gynnwys darparu bwyd ochr yn ochr âr gweithgareddau er mwyn mynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau.
I gyflawni hyn, rydym yn darparu cyllid i gyflwyno cyfleoedd a gweithgareddau sydd:
- Am ddim/fforddiadwy i bobl sy'n gymwys ar eu cyfer.
- Yn hawdd eu cyrchu ac yn cael eu cynnal o fewn cymunedau lleol.
- Yn briodol i oedran.
- Yn cefnogi mynediad cyfartal i bobl o bob gallu.
Amlinellir rhai ystyriaethau isod:
- Sicrhau bod rhaglen gynhwysol a chytbwys o weithgareddau sy'n briodol i oedran, y gall pawb sydd am gymryd rhan gael mynediad atynt yn hawdd.
- Darparu mynediad cyfartal.
- Cynnig amrywiaeth o weithgarddau chwarae, chwaraeon, diwylliannol ac eraill mewn amrywiaeth o leoliadau.
- Lle bynnag y bo modd, dylid cynnal gweithgareddau mewn lleoliadau hygyrch y gellir eu cyrraedd ar droed neu ar gludiant cyhoeddus.
- Dylai ceisiadau ar gyfer prosiectau a gyflwynir gan ddarparwyr / grwpiau / glybiau presennol fod yn ychwanegol at weithgareddau neu ddarpariaeth.
- Bydd ceisiadau ar gyfer gweithgareddau rheolaidd grŵp gyda'i garfan sefydledig yn aflwyddiannus.
- Ni fydd teithiau y tu allan i ardal Abertawe'n gymwys am gyllid.
Caiff ceisiadau eu cymeradwyo ar gyfer grwpiau sy'n meddu ar y canlynol ac yn ei ddarparu'n unig:
- Dogfennau neu gyfansoddiad llywodraethu cyfredol.
- Cyfrif banc busnes priodol.
- Cyfrifon archwilliedig - neu os yw'n grŵp newydd, cyfriflenni banc cyfredol.
- Polisïau Diogelu priodol - Diogelwch Plant, Oedolyn Agored i Niwed, anabledd a/neu unrhyw ofynion diogelu priodol eraill.
- Polisïau Corfforaethol priodol - Cydraddoldeb, Y Gymraeg, amgylcheddol.
Cysylltwch â Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe gydag unrhyw ymholiadau am y rhestr uchod.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais 20 Mehefin 2024 am 5.00pm
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried.
Asesir pob cais yn erbyn y meini prawf uchod gan banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor a'r trydydd sector. Bydd y panel yn ceisio ystod amrywiol o weithgareddau hygyrch sy'n cynnig gwerth am arian ac sy'n denu cynulleidfaoedd newydd i brofiadau newydd.
Os bydd gormod o geisiadau am arian, rhoddir blaenoriaeth i'r prosiectau hynny mewn meysydd angen a dargedir - nodweddion daearyddol a gwarchodedig.
Mae penderfyniad y Panel yn derfynol; ni chaiff apeliadau eu hystyried.
Bwriadwn roi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus yn ystod wythnos 1 Gorffennaf 2024.
Rhaid i'r holl gyllid a ddyfarnwyd gael ei wario, a'r prosiect gael ei gwblhau erbyn 30 Medi 2024.
Mae monitro yn un o ofynion y cyllid hwn. Darperir gwybodaeth i'r ymgeiswyr llwyddiannus. Byddwch yn ymwybodol y bydd angen casglu data ar sail sesiynol.
Bydd angen i'r holl ddeunydd fel gwedudalennau a phosteri ddefnyddio'r logos cywir. Rhoddir cyfarwyddiadau brandio i ymgeiswyr llwyddiannus a bydd yn rhaid eu dilyn.
Os oes angen y ffurflen gais hon mewn fformat arall, cysylltwch â: GrantiauPaCh@abertawe.gov.uk
Gwneud cais am gronfa COAST 2024 Cronfa Grant Gweithgareddau COAST Haf 2024
Sicrhewch eich bod yn cyfeirio at feini prawf COAST wrth lenwi'r ffurflen.
Bydd angen i chi ddarparu crynodeb o'r rhaglen arfaethedig gan gynnwys yr hyn rydych yn bwriadu'i gyflwyno a pham y bydd y grant yn helpu, gyda manylion nifer y cyfranogwyr rydych yn eu disgwyl, sut mae'n ychwanegol at yr hyn rydych yn ei wneud nawr, sut byddwch yn targedu cyfranogwyr newydd (gan gynnwys sut byddwch yn annog y rheini mewn grwpiau blaenoriaeth i gymryd rhan), ynghyd â thystiolaeth o angen.
Mae angen gwybodaeth ariannol arnom hefyd sy'n cynnwys y dadansoddiad o gost (ar gyfer pob eitem) ynghyd â'r cyfanswm rydych yn gwneud cais amdano.
Gallwch gadw'ch cynnydd ar unrhyw bwynt, a fydd yn caniatáu i chi ddychwelyd i'ch cais os bydd angen i chi ddod nôl iddo.