Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol 2024 / 2025 - Cyfalaf

Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn Abertawe.

Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais?

Cyrff cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rheini ag amcanion elusennol a sefydliadau nid er elw preifat.

Meini prawf y gronfa

Diben y gronfa yw cefnogi nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd drwy gryfhau mentrau bwyd ac ansicrwydd bwyd drwy gryfhau mentrau bwyd cymunedol sydd eisoes yn bodoli yn Abertawe, gan gynnwys rhoi ffocws ar weithgarwch sy'n helpu i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd. Mae'r grant hwn yn darparu cyllid cyfalaf yn unig.

Mae amodau a thelerau'r grant yn nodi'r canlynol:

Dylai'r cyllid cyfalaf gefnogi sefydliadau i gael gafael ar gyflenwadau bwyd ychwanegol, eu storio a'u dosbarthu, gan gynnwys bwyd da dros ben, er mwyn hybu eu gallu i ddarparu bwyd maethlon o safon i'w cwsmeriaid. 

Gellir ei ddefnyddio hefyd i brynu cyfarpar sy'n cefnogi mentrau sy'n helpu i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd, er enghraifft, ond heb fod yn gyfyngedig i ddatblygu mentrau tyfu a dosbarthu bwyd lleol. 

Gellir hefyd ddefnyddio cyllid i gefnogi prosiectau sy'n berthnasol i fwyd sy'n helpu i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd. 

Sylwer bod cyfalaf yn golygu: 

  • Pryniannau untro - felly ni all gynnwys eitemau darfodus fel bwyd, eitemau untro (er enghraifft, cynwysyddion cludfwyd), rhent, cyfleustodau, costau hyfforddiant neu staff/treuliau gwirfoddolwyr, costau cludiant
  • Gall cyllid cyfalaf gynnwys y canlynol (ond nid yw'n gyfyngedig iddynt): 
    • silffoedd
    • cynwysyddion storio bwyd
    • nwyddau gwynion, er enghraifft, ffyrnau, oergell neu rewgell, ac yn y blaen
    • cyfarpar cegin / coginio / piclo
    • cyfarpar tyfu bwyd yn y gymuned, er enghraifft, offer (nid pridd, hadau neu blanhigion)
    • celfi (os yw'n angenrheidiol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi bwyd yn unig)
    • offer TG angenrheidiol - er enghraifft, er mwyn archebu bwyd neu ddarparu cefnogaeth arbenigol i fynd i'r afael â thlodi bwyd (rhaid i'r offer gael cysylltiad uniongyrchol â mynd i'r afael â thlodi bwyd, ac nid diweddaru offer swyddfa cyffredinol)

Felly, byddwn yn croesawu ceisiadau am gyllid sy'n mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd gan gynnwys mynd i'r afael â'r gwir achosion.

Sut i gyflwyno cais

Llenwch y ffurflen gais a chyflwynwch yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol sy'n ofynnol.

Gall peidio â darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol arwain at oedi wrth asesu'ch cais neu gall y cais fod yn anghymwys i'w ystyried.

Cyflwyno cais ar gyfer y Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol 2024 / 2025 Cyflwyno cais ar gyfer y Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol 2024 / 2025

Lefelau ariannu

Mae cyfanswm o £56,032 o gyllid refeniw ar gael oddi wrth Gronfa Cymorth Bwyd Uniongyrchol 2024/25. Gan ystyried nifer y ceisiadau rydym yn rhagweld y byddwn yn eu derbyn, byddem yn awgrymu bod ceisiadau ar gyfer hyd at £1,850. Gallwch wneud cais am fwy na'r symiau a awgrymir, cysylltwch â ni os hoffech drafod. Asesir pob cais ar sail ei deilyngdod.

Os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno, e-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2025.

Dyddiadau cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 8 Gorffennaf 2024.


Meini prawf y cais a'r asesiad

Caiff yr holl geisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf isod a bydd angen i ymgeiswyr arddangos y canlynol:

  • Statws sefydliadol / amcanion elusennol.
  • Bod yr arian yn mynd i'r afael â meini prawf y gronfa neu angen tlodi bwyd a nodwyd.
  • Nifer y buddiolwyr.
  • Hygyrchedd a chyfleoedd cyfartal.
  • Dadansoddiad ariannol llawn o'r arian y cyflwynwyd cais amdano.
Close Dewis iaith