Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2024 / 2025 - amodau'r grant

Amodau a thelerau'r grant.

Diben y grant

Dylai lleoliadau Gofal Plant a Chwarae ddefnyddio'r grant hwn i gefnogi eu busnes pan fo amgylchiadau'n golygu bod lleoliad wedi nodi problemau llif arian a all effeithio ar dalu cyflogau staff, biliau cyfleustodau a methiant i ddarparu gwasanaeth cyfan neu ran o wasanaeth. (Ar gyfer cyfleoedd chwarae a chynlluniau yn ystod y gwyliau yn unig) creu lleoedd newydd mewn darpariaeth bresennol, creu darpariaeth newydd.

Ar gyfer lleoliadau gofal plant sy'n dymuno creu lleoedd newydd neu greu darpariaeth newydd, rhaid i chi gysylltu â'r Swyddog Cynllunio a Gweithredu Cyfalaf Gofal Plant a;r Blynyddoedd Cynnar drwy e-bostio ruth.james@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth am Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024 / 2025.

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Meini prawf cymhwy sedd

Mae grant o hyd at £5,000 (£2,000 ar gyfer gwarchodwyr plant) ar gael i helpu lleoliadau gofal plant a chwarae yn Abertawe i ddarparu busnes cynaliadwy.

Rhaid i'r rhesymeg o ran busnes ar gyfer y grant hwn ddangos yr angen i oresgyn unrhyw faterion llif arian sydd wedi'u nodi fel rhan o Wiriad Iechyd Busnes.

Gofynnir i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'u rhagolwg ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol Ebrill 2024 - Mawrth 2025.

Mae'n rhaid i'ch busnes fodloni'r canlynol:

  • Cynnig darpariaeth gofal plant a/neu chwarae i blant 0-14 oed.
  • Rhaid iddo fod yn Abertawe. Ni all darparwyr sydd wedi'u lleoli y tu allan i Abertawe gyflwyno ceisiadau hyd yn oed os oes plant o Abertawe yn mynd yno. (Cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol am ragor o wybodaeth am grantiau yn eich ardal).
  • Darparu gofal plant a/neu chwarae drwy ddarparu gwasanaethau fforddiadwy a hygyrch o safon sy'n helpu teuluoedd.
  • Bod wedi'i chofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) lle bo'n briodol. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, grwpiau'r sector preifat a gwirfoddol, a lleoliadau a gynhelir sy'n cynnig gofal dydd, gofal ar ddechrau ac ar ddiwedd dydd, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, clybiau gofal plant y tu allan i'r ysgol, etc.
  • Tystiolaeth bod y lleoliadau'n gweithio tuag at gael eu cofrestru ag AGC.

 

Faint o arian gallaf wneud cais amdano?

  • Gall ymgeiswyr gyflwyno mwy nag un cais y flwyddyn. Ebrill 2024 - Mawrth 2025.
  • Yr uchafswm (ac eithrio ar gyfer Gwarchodwyr Plant) y gall unrhyw ddarparwr wneud cais amdano mewn unrhyw un cais yw £5,000.
  • Yr uchafswm y gall gwarchodwyr plant wneud cais amdano yw £2,000 y flwyddyn ariannol.
  • Bydd swm y cyllid yn dibynnu ar anghenion busnes unigol a thystiolaeth i gefnogi cyfiawnhad.
  • Bydd ceisiadau'n cael eu pwyso yn erbyn meini prawf y gronfa hefyd.

Gwybodaeth gysylltiedig am y grant

Beth gellir ei ariannu?

  • Creu lleoedd newydd mewn darpariaeth bresennol (Chwarae yn unig).
  • Creu lleoliad chwarae newydd(Chwarae yn unig).
  • Biliau cyfleustodau fel nwy, trydan, dŵr etc. Bydd y taliadau yma wedi'u capio ar 25% o gostau misol.
  • Costau staff fel cyflogau, teithio a chynhaliaeth.
  • Cyfraniad tuag at gymwysterau sy'n cael eu henwi ar y rhestr gymeradwy: https://gofalcymdeithasol.cymru/cymwysterau-ac-ariannu/fframwaith-cymwysterau
  • Darparu costau cynnal ar gyfer cysylltiad Wi-Fi. Bydd y taliadau hyn wedi'u capio ar 25% o gostau misol.
  • Costau yswiriant, er enghraifft yswiriant adeiladau, yswiriant atebolrwydd cyflogwyr etc.

Beth na ellir ei ariannu?

Mae'r cyllid ar gyfer costau refeniw, ni ddylai'r ceisiadau gynnwys:

  • Costau cyfalaf bach a mawr, gan gynnwys gwelliannau i adeilad neu ardal allanol.
  • Newid / atgyweirio gosodiadau a darnau gosod fel ystafell ymolchi a chyfleusterau cegin, ffenestr, drysau etc.
  • Cael offer / celfi / cyfarpar chwarae newydd yn lle'r hen rai.
  • Prynu cerbyndau.
  • Grwpiau Rheini a Phlant Bach.

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. Os oes unrhyw amheuaeth a yw eitem yn gymwys, e-bostiwch  fis@abertawe.gov.uk

Grant marchnata

Rhaid i'r ymgeisydd sicrhau bod unrhyw gydnabyddiaeth o gynnig grant llwyddiannus yn cael eu rhannu drwy ddeunyddiau hyrwyddo â rheini/gofalwyr. Os nad ydych yn siŵr sut i gydnabod cais llwyddiannus am grant, cysylltwch â'n Tîm Cefnogi Gwasanaethau.

Sut caiff ceisiadau eu hasesu?

Bydd cyllid yn cael ei flaenoriaethu i'r:

  • Rheini sy'n cefnogi Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yr awdurdod lleol a'r cynllun gweithredu cysylltiedig.
  • Lleoliadau sy'n darparu darpariaeth Gymraeg a/neu sydd â phwyslais penodol ar gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg.
  • Lleoliadau sy'n cefnogi agenda cydleoli gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, er enghraifft ar safleoedd ysgolion, mewn canolfannau cymunedol a hybiau iechyd.
  • Lleoliadau sy'n darparu'r cynnig gofal plant, Dechrau'n Deg a/neu leoedd Dysgu Sylfaenol mewn lleoliadau.
  • Gofal plant y gellir ei ddarparu yn ystod y diwrnod llawn, yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau'r ysgol er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth fwyaf posib i deuluoedd ar draws y flwyddyn.
  • Y ceisiadau hynny sydd wedi darparu tystiolaeth lawn o angen ac wedi cwblhau'r cais yn llawn.

Amserlenni a'r broses ymgeisio

Bydd Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2024/2025 ar agor drwy gydol y flwyddyn, gyda'r dyraniad olaf yn debygol o fod ym mis Ionawr 2025. Nodwch yr amserlen isod fel arweiniad i'r rheini sydd â dyddiadau penodol ar gyfer cyflwyno darpariaeth.

Amserlenni a'r broses ymgeisio
Derbyniwyd y cais cyn:Cyfarfu'r panel / gwnaed y penderfyniad yn ystod yr wythnos sy'n dechrau:
Dydd Gwener 26 Ebrill 2024Dydd Llun 29 Ebrill 2024
Dydd Gwener 31 Mai 2024Dydd Llun 3 Mehefin 2024
Dydd Gwener 28 Mehefin 2024Dydd Llun 1 Gorffennaf 2024
Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2024Dydd Llun 29 Gorffennaf 2024
Dydd Gwener 20 Medi 2024Dydd Llun 23 Medi 2024
Dydd Gwener 8 Tachwedd 2024Dydd Llun 11 Tachwedd 2024
Dydd Gwener 20 Rhagfyr 2024Dydd Llun 6 Ionawr 2025
Close Dewis iaith