Swydd crwner
Swyddog barnwrol annibynnol yw Crwner Ei Mawrhydi dan reolaeth y Goron. Mae pob crwner yn lleol i awdurdodaeth, a ariennir gan y cyngor lleol, ond yn annibynnol o'r cyngor, yr heddlu, ysbytai a Llywodraeth Cymru.
Cwêst
Mewn rhai amgylchiadau, gall Crwner EM gynnal cwest i'r farwolaeth. Fel arfer, bydd e'n rhoi ffurflen Trefn y Claddiad neu Dystysgrif Amlosgi i'r trefnwr angladdau, fel gellir cynnal yr angladd. Gall hefyd gyflwyno tystysgrifau marwolaeth dros dro i berthnasau er mwyn iddynt allu trefnu materion ariannol y sawl sydd wedi marw. Ni chaiff y farwolaeth ei chofrestru nes i'r cwêst gael ei gynnal a bod dyfarniad ar gael. Ar ôl y cwêst, bydd y crwner yn rhoi'r gwaith papur perthnasol i'r cofrestrydd. Ar ôl cofrestru (nid oes angen hysbyswr), gellir prynu copïau ardystiedig o'r cofnod, h.y. tystysgrifau marwolaeth, gan y cofrestrydd.
Cynhelir cwestau yn y llys yn y Neuadd y Ddinas fel arfer (gweler y cyfeiriad isod). Mae gan y llys fynediad i gadeiriau olwyn. Bydd yn rhaid i'r rhai sy'n mynd i'r llys sydd â gofynion arbennig, e.e. gwasanaethau cyfieithu, gysylltu â swyddogion y crwner ymhell ymlaen llaw. Mae'r holl gwestau ar agor i'r cyhoedd ac i'r wasg, oni bai fod perygl i ddiogelwch cenedlaethol.
Presenoldeb yn ystod cwestau
Mae'n anghyfreithlon i recordio unrhyw achosion barnwrol a glywir mewn llys agored heb ganiatâd y Crwner, ac mae gwneud hynny'n ddirmyg llys o dan Ddeddf Dirmyg Llys 1981.
Coroner's court inquest hearing list (PDF, 325 KB)
Meddygon Teulu'n Adrodd am Farwolaethau Meddygon Teulu'n Adrodd am Farwolaethau
Crwner Uwch
Mr Aled Gruffydd
Uwch grwner ei fawrhydi Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
E-bost: coroner@swansea.gov.uk
Ffôn: 01792 636237 neu 01792 450650
Crwneriaid cynorthwyol
Mr Edward Ramsay
Mrs Kirsten Heaven
Swyddogion y crwner
Dyma rif ffôn uniongyrchol Swyddogion y Crwner: 01792 450650
Ar adegau prysur iawn pan fo'r swyddogion yn brysur yn ateb galwadau eraill neu os nad ydynt yn y swyddfa, gadewch neges ynghyd â'ch manylion cyswllt a natur yr ymholiad a bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.
Neu e-bostiwch CoronersOfficeWestern@south-wales.pnn.police.uk.
Ffacs: 01792 450652
Os yw eich neges yn un brys ac mae angen i chi siarad â rhywun, ffoniwch y swyddfa gyffredinol ar 01792 450650 ac efallai gall aelod o'r staff gweinyddol eich helpu.
Oriau agor y swyddfa
Ffôn: 01792 636237
Dydd Llun i ddydd Gwener: 9.00am - 4.00pm
Nid yw'r swyddfa hon ar waith y tu allan i oriau agor.
Os oes argyfwng y tu allan i oriau'r swyddfa gallai Heddlu De cymru gysylltu â Chrwner EM yn bersonol.