Cwestiynau cyffredin am gludiant ysgol
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am gludiant ysgol.
Sut bydd fy mhlentyn yn cyrraedd yr ysgol?
Mae'r cyngor yn darparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol ar sail ei Bolisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a gyhoeddwyd. Mae hyn yn unol â gofynion Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 Llywodraeth Cymru.
Darperir cludiant am ddim i ddisgyblion sy'n byw dwy filltir neu fwy o ysgol gynradd eu dalgylch neu dair milltir neu fwy o ysgol uwchradd eu dalgylch. Mesurir y pellter hwn yn ôl y llwybr cerdded byrraf yn unol â Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y cyngor, Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a Chanllawiau ar Ddarpariaethau Statudol Teithio gan Ddysgwyr a Chanllawiau Gweithredol (Mehefin 2014) Llywodraeth Cymru). Darperir cludiant am ddim o ddechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r plant yn cael eu pen-blwydd yn bump oed ynddi. Fel arfer ni ddarperir cludiant am ddim i blant iau/meithrin.
Beth os nad yw'r ysgol yn fy nalgylch?
Os ydych yn cyflwyno cais am le mewn ysgol nad yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi sy'n gyfrifol am gludo eich plentyn i'r ysgol ac oddi yna, a'r gost sy'n gysylltiedig â hyn. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim pan nad yw disgybl yn mynychu'r ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os yw disgybl yn cael lle mewn ysgol nad yw'n ysgol ddynodedig y dalgylch o ganlyniad i apêl lwyddiannus.
Sut byddaf yn gwybod os wyf yn gymwys ar gyfer cludiant am ddim?
Bydd disgyblion sy'n gymwys ar gyfer cludiant am ddim yn derbyn ffurflen gais ym mis Mai/Mehefin ar gyfer y flwyddyn academaidd sy'n dechrau ym mis Medi.
Ydw i'n gallu prynu sedd sbâr?
Mae'n bosib y bydd disgyblion sy'n byw llai na dwy filltir o ysgol gynradd eu dalgylch neu 3 milltir o ysgol uwchradd eu dalgylch yn gallu prynu tocyn bws i deithio ar fws yr ysgol os oes seddau gwag ar gael ar y bws hwnnw. Caiff seddi eu gwerthu o 1 Hydref bob blwyddyn, fodd bynnag, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd seddi sbâr ar gael bob tro i rieni eu prynu, neu y bydd seddi sbâr yn parhau i fod ar gael o un flwyddyn i'r llall. Nid oes seddi gwag ar gael i'w prynu i ddisgyblion oed meithrin.
Dylech gofio hefyd y gall llwybr ac amser bysus ysgol amrywio o bryd i'w gilydd. Gellir dod o hyd i fanylion am sut i brynu sedd ar y dudalen ganlynol: Prynu sedd wag ar fws cludiant ysgol.
Plant â datganiadau o anghenion dysgu ychwanegol
I blant â datganiad o anghenion dysgu ychwanegol, mae'r polisi cludiant cyffredinol a ddisgrifir uchod yn berthnasol. Bydd y cyngor yn darparu cludiant am ddim i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, lle cânt eu lleoli gan yr Adran Addysg mewn ysgol brif ffrwd yn hytrach nag mewn ysgol eu dalgylch lleol, mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol yn hytrach na'u hysgol leol, neu mewn ysgol arbennig, ar yr amod eu bod yn byw 2 filltir neu fwy o'r ysgol yn achos disgyblion cynradd a 3 milltir neu fwy yn achos disgyblion uwchradd.
Gall y cyngor ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim yn ôl ei ddisgresiwn gan ddibynnu ar natur anghenion dysgu ychwanegol y plentyn. Os yw'r Adran Addysg yn credu y gellir diwallu anghenion plentyn yn ei ysgol brif ffrwd leol ond bod ei rieni'n dewis ysgol brif ffrwd wahanol, y rhiant fydd yn gyfrifol am unrhyw drefniadau a chostau cludiant.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am gludiant ysgol trwy ffonio Uned Cludiant integredig y cyngor ar 01792 636347.
2023/24 | 2022/23 | 2021/22 | 2020/21 | 2019/20 | |
---|---|---|---|---|---|
Nifer y disgyblion prif ffrwd | 4,660 | 4,497 | 4,487 | 4,398 | 4,550 |
Cost cludiant ar gyfer disgyblion prif ffrwd | £5,228,271 | £4,603,735 | £4,120,321 | £2,989,648* | £3,978,432 |
Nifer y isgyblion ADY | 703 | 668 | 701 | 654 | 660 |
Cost cludiant ar gyfer disgyblion ADY | £5,872,766 | £5,511,792 | £4,631,010 | £3,968,082* | £4,843,349 |
Nifer y contractau prif ffrwd | 154 | 159 | 135 | 134 | 123 |
Nifer y contractau ADY | 473 | 583 | 457 | 412 | 424 |
*Taliadau llai i ddarparwyr cludiant yn ystod cyfnodau clo COVID-19 ac am resymau eraill sy'n ymwneud â COVID-19.