Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin y gwasanaeth larwm cymunedol

Rhestr o gwestiynau cyffredin am y gwasanaeth a sut mae'n gweithio.

Beth yw larwm cymunedol?

Mae larymau cymunedol yn darparu cyswllt ffôn mewn argyfwng i bobl hŷn ac anabl. Maent yn galluogi pobl i gysylltu â'r gwasanaethau meddygol a brys yn gyflym ac yn ddibynadwy, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu cyrraedd ffôn neu'n methu siarad.

Beth yw diben larwm cymunedol?

Diben y larwm yw rhoi diogelwch ychwanegol i'r defnyddiwr neu ddarparu sicrwydd i'w ofalwr anffurfiol.

Sut mae'n gweithio?

Mae gan ddefnyddwyr y gwasanaeth uned larwm cymunedol wedi'i gosod yn eu cartref sy'n gysylltiedig â'r llinell ffôn. Mae'r uned hon yn cael ei rheoli gan radio drwy dlws crog sy'n cael ei wisgo o amgylch y gwddf neu wedi'i glymu i'r dillad.  Dylid gwisgo'r tlws crog hwn drwy'r amser pan fo'r defnyddiwr gartref.  Os bydd y defnyddiwr yn cwympo neu os bydd angen cymorth arno am reswm arall, mae ef neu hi'n gwasgu'r botwm ar y tlws crog. Mae'n anfon neges i'r ffôn sy'n cysylltu â Chanolfan Reoli'r Gwasanaeth Larwm Cymunedol.

Ydy'r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd?

Ydy. Mae Canolfan Reoli'r Gwasanaeth Larwm Cymunedol ar agor 24 awr y dydd, 365 awr y flwyddyn.

Ydy'r ganolfan reoli'n gwybod pwy i gysylltu â nhw?

Mae gan staff y ganolfan wybodaeth ar gronfa ddata o enw a chyfeiriad y defnyddiwr, y meddyg a'r hanes meddygol. Mae ganddynt hefyd enwau a rhifau ffôn pobl - perthnasau, ffrindiau neu gymdogion - sydd ag allweddi i gartref y defnyddiwr ac maent ar gael i helpu mewn argyfwng.  

Beth os nad yw'r person maent yn cysylltu â nhw'n gallu helpu?

Os na fydd perthynas, ffrind neu gymydog yn gallu helpu, yna bydd y gweithredydd yn cysylltu ag un o'r gwasanaethau brys.

Pwy sy'n gymwys am larwm?

Gall unrhyw un wneud cais am larwm cymunedol os yw o'r farn y byddai'r tawelwch meddwl a ddarperir ganddo o fudd. Gall pobl wneud cais eu hunain neu ar ran perthynas.

A oes tâl?

Codir tâl safonol blynyddol am ddarparu larwm cymunedol. Ar hyn o bryd cost hwn yw £175.83 heb gynnwys TAW ar hyn o bryd neu £211.00 yn cynnwys TAW - mae'r tâl hwn yn berthnasol os ydych chi'n atebol i dalu TAW yn unig, er enghraifft, os nad ydych wedi cwblhau ffurflen eithrio TAW. Bydd un anfoneb y flwyddyn. Gellir talu'r anfoneb fesul 10 taliad misol neu ei thalu mewn un taliad blynyddol.

Sut ydw i'n talu?

Gellir gwneud taliadau trwy ddebyd uniongyrchol. Byddwch yn derbyn un anfoneb flynyddol a chaiff y taliadau eu casglu mewn pedwar rhandal chwarterol.

Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am dalu pan fyddwch yn derbyn y larwm. Gellir gwneud cais am delerau mwy ffafriol pan fyddwch yn derbyn eich anfoneb flynyddol os yw'r trefniant uchod yn peri trafferth i chi.

Sylwer: Mae'r gost hon yn berthnasol o 1 Ebrill 2024 nes clywir yn wahanol.

Beth mae'r tâl hwn yn ei gynnwys?

Mae'r tâl blynyddol yn cynnwys darparu a gosod cyfarpar y larwm cymunedol, diweddaru'r cyfarpar o dro i dro am resymau technegol, yn ôl yr angen, cysylltu â'r ganolfan alwadau a ffïoedd cysylltiedig, cynnal a chadw'r cyfarpar yn rheolaidd, gan gynnwys adnewyddu'r batri a gwasanaeth atgyweirio 365 niwrnod.

Sylwer: Nid yw'r tâl hwn yn cynnwys cost unrhyw alwadau a wneir na chostau rhentu'r llinell.  Bydd eich darparwr gwasanaeth ffôn yn parhau i anfon bil atoch yn ôl yr arfer.

Oes angen i mi brofi fy larwm?

Mae'n bwysig y caiff eich larwm ei brofi'n rheolaidd.  Argymhellir ei brofi unwaith y mis i sicrhau bod y batri mewn cyflwr da.  Y cyfan y mae'n rhaid i chi ei wneud yw gwasgu'r botwm ar y tlws crog fel petaech yn galw am gymorth.

Ar ôl i'r ganolfan fonitro dderbyn yr alwad, rhowch wybod mai galwad brawf ydyw a gofynnwch a oedd y prawf yn llwyddiannus.

Os yw'r ganolfan fonitro'n rhoi gwybod i chi fod y batri'n isel; neu os nad yw'r tlws crog yn gweithio pan rydych yn ceisio'i brofi, cysylltwch â'r Gwasanaeth Larwm Cymunedol ar unwaith trwy ffonio Tîm y Gwasanaeth Larymau Cymunedol .

Sut rydw i'n gwneud cais i'r Gwasanaethau Cymdeithasol am larwm?

Gallwch wneud cais ar-lein gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein (Llinell Fywyd) Larymau Cymunedol.

Cyflwynwch gais am larwm cymunedol (llinell bywyd) Cyflwynwch gais am larwm cymunedol (llinell bywyd)

Gallwch wneud cais uniongyrchol i'r Gwasanaethau Cymdeithasol eich hun, naill ai drwy ffonio neu'n ysgrifenedig. Os yw'n well gennych, gallech ofyn i'ch gofalwr, eich meddyg teulu, staff yr ysbyty neu'r Ymwelydd Iechyd i gysylltu â ni ar eich rhan.

I wneud cais am larwm gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, cysylltwch â'r: Tîm y Gwasanaeth Larymau Cymunedol

Mae galwadau ffôn y Gwasanaeth Larwm Cymunedol yn cael eu recordio'n rheolaidd at ddibenion monitro ansawdd.

Beth os ydw i'n newid fy narparwr gwasanaeth ffôn?

Os ydych yn newid eich darparwr gwasanaeth ffôn, rhowch wybod i ni trwy ffonio Tîm y Gwasanaeth Larymau Cymunedol .  Nid yw pob system ffôn yn defnyddio'r un dechnoleg, ac os yw system eich darparwr gwasanaeth ffôn newydd yn wahanol i'r un a ddefnyddiwyd gan eich darparwr blaenorol, efallai y bydd rhaid addasu eich system larwm.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2024