Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am gofrestru fel person anabl

Mae cofrestru fel person anabl yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gwybod pwy allai elwa o'r gwasanaethau lleol sydd ar gael i hyrwyddo lles pobl anabl.

 

Beth yw'r gofrestr o bobl anabl?

Pwy sy'n gallu cofrestru?

Oes rhaid cofrestru?

Beth yw manteision cofrestru?

Beth yw'r broses gofrestru?

Ydy cofrestru'n golygu bod hawl gennyf i dderbyn gwasanaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol?

Ydy'r broses yr un peth i blant?

 

 

Beth yw'r gofrestr o bobl anabl?

Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i gadw cofrestr o bobl ag anabledd 'sylweddol a pharhaol'. Mae'r gofrestr hon dan ofal y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Nod y gofrestr yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r bobl yn eu hardal a allai elwa o wasanaethau sydd ar gael i hybu lles pobl anabl. Mae hefyd yn gallu helpu'r Gwasanaethau Cymdeithasol i gynllunio ymlaen llaw drwy ddarparu amcangyfrif o niferoedd y bobl anabl leol a pha namau sydd arnynt.

Pwy sy'n gallu cofrestru?

Unrhyw un â nam corfforol neu synhwyraidd sy'n sylweddol (h.y. mae'n cael effaith sylweddol ar fywyd pob dydd person) ac yn barhaol (h.y. disgwylir iddo bara'n hwy na chyfnod o 12 mis).

Gall y nam fod yn rhywbeth sydd wedi bodoli ers genedigaeth, neu gall fod o ganlyniad i salwch, anaf neu heneiddio.

Does dim rhaid i chi fod yn derbyn nac yn gwneud cais am wasanaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn cofrestru.

Oes rhaid cofrestru?

Nac oes.  Mae cofrestru'n gwbl wirfoddol.

Mae'r rhan fwyaf o fanteision y cewch wrth gofrestru ar gael i bobl anabl hyd yn oed os nad ydynt yn cofrestru.  Gellir cael llawer o'r budd-daliadau a'r consesiynau trwy fodloni'r meini prawf cofrestru yn unig. Does dim angen cofrestru'n ffurfiol..

Beth yw manteision cofrestru?

Mae ambell fudd-dal ar gael i'r rheiny sydd wedi'u cofrestru'n anabl yn unig.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • lwfans treth incwm pobl ddall;
  • gostyngiad trwydded deledu i bobl ddall;
  • cerdyn trên person anabl.

Fodd bynnag, gallai cofrestru a chael cerdyn cofrestru ei gwneud yn haws i rywun hawlio'r budd-daliadau a'r consesiynau y mae hawl ganddynt eu derbyn fel person anabl.

Mae'r rhain yn cynnwys eithriadau TAW ar nwyddau a gwasanaethau yn ymwneud ag anabledd, pris gostyngol ar gludiant cyhoeddus neu am ddim a chonsesiynau mewn theatrau a sinemâu.

Beth yw'r broses?

Os ydych eisoes yn derbyn gwasanaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol dylech gysylltu â'r gweithiwr cymdeithasol neu'r rheolwr gofal yr ydych fel arfer yn cysylltu â nhw. 

Os nad ydych wedi cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn y gorffennol, mae prosesau'n amrywio ychydig yn dibynnu ar eich anabledd.

Colli golwg

Er mwyn cofrestru bydd angen i chi gael tystysgrif CVI (Tystysgrif Nam ar y Golwg) oddi wrth arbenigwr y llygaid. Bydd hon yn cadarnhau a ydych yn nam ar eich golwg neu nam difrifol ar eich golwg.
Pan roddir y dystysgrif hon, bydd yr offthalmolegydd yn gofyn a hoffech roi eich manylion i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Colli golwg

Gallwch gael asesiad colli clyw er mwyn cael eich cofrestru gan y Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd. Does dim angen tystiolaeth annibynnol o golli clyw.  Yn aml, mae'r clinig clyw'n cyfeirio pobl atom i'w cofrestru.

Anabledd corfforol

Lle bynnag y bo modd, bydd y Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC), neu'r gweithiwr cymdeithasol sy'n ymdrin â'ch achos yn casglu digon o wybodaeth i'ch galluogi i gofrestru. Weithiau, fodd bynnag, bydd angen rhagor o wybodaeth ac efallai bydd angen eich caniatâd arnynt i gysylltu â'ch meddyg teulu.

Ar ôl eich cofrestru, bydd cerdyn cofrestru wedi'i lamineiddio'n cael ei anfon atoch chi.

Gellir dod o hyd i'r bobl y mae angen i chi gysylltu â nhw er mwyn cofrestru ar ein tudalen cofrestru fel person anabl.

Ydy cofrestru'n golygu bod hawl gennyf i dderbyn gwasanaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol?

Mae darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol bob amser yn dibynnu ar asesiad a'r meini prawf cymhwyster sy'n berthnasol, ac nid yw cofrestru fel person anabl yn darparu hawl awtomatig i wasanaethau. Fodd bynnag, gallech wneud cais i asesu eich anghenion pan fyddwch yn cofrestru.  .

Ydy'r broses yr un peth i blant?

Mae'n rhaid i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gadw cofnod ar wahân i blant ag anableddau - Mynegai Anabledd Plant - er mwyn sicrhau y darperir gwasanaeth sy'n seiliedig ar anghenion i'r plant hyn a'u teuluoedd.  Unwaith eto, mae cofrestru'n wirfoddol ac nid oes modd cynnwys unrhyw blentyn ar y cofnod heb ganiatâd rhieni.

Cedwir y cofnod hwn gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i rannu gyda staff proffesiynol Iechyd ac Addysg.

Nid yw'r wybodaeth ar y cofnod hwn yn cael ei throsglwyddo'n awtomatig i'r gofrestr ganolog ar bobl anabl, a rhaid i rieni roi caniatâd clir cyn cynnwys manylion eu plant ar y gofrestr anabledd.

Fel arfer, trafodir yr opsiwn hwn gyda rhieni wrth drafod y Mynegai Anableddau Plant.  Fodd bynnag, mae'n bosibl cynnwys plentyn ar y gofrestr pobl anabl heb fod ar y Mynegai Anableddau Plant. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Un pwynt cyswllt (UPC).

Close Dewis iaith