Toglo gwelededd dewislen symudol

Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion

Sut mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn asesu'ch anghenion gofal a chefnogaeth.

Ystyr gofal cymdeithasol yw rhoi help a chefnogaeth bersonol ac ymarferol er mwyn galluogi pobl mewn angen neu mewn perygl i fyw'n annibynnol a diogel yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain. 

Mae Cyngor Abertawe'n gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd PABM a llawer o sefydliadau annibynnol a'r trydydd sector i sicrhau bod amrywiaeth o wybodaeth, cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau ar gael i bobl â lefelau gwahanol o angen.

Gan fod adnoddau'n brin, gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu gwasanaethau gofal a chefnogi i bobl â'r lefel uchaf o angen yn unig. 

Rydym yn defnyddio asesiadau i ganfod pa anghenion sydd gan berson, pa fath o gefnogaeth fydd fwyaf defnyddiol ac a yw rhywun yn gymwys am gefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Ein dyletswyddau gyfreithiol

O fis Ebrill 2016, mae ein dyletswyddau cyfreithiol o ran darparu gofal cymdeithasol wedi'u nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Yn agor ffenestr newydd).

Yn unol â rhan 2 y Ddeddf, mae'n rhaid i ni ddarparu gwybodaeth a chyngor ar y gefnogaeth sydd ar gael yn lleol. Gall gwasanaethau ataliol a chymunedau cefnogol helpu pobl i fod yn llai unig ac yn fwy gwydn i broblemau sy'n codi. Drwy roi gwybod i bobl am yr amrywiaeth o opsiynau ar gyfer diwallu eu hanghenion gofal a chefnogaeth yn gynnar, bydd rhaid i lai o bobl ddibynnu ar wasanaethau gofal tymor hir.

O dan Ran 3 y Ddeddf, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol i gynnig asesiad i:

  • unrhyw oedolyn lle ymddengys i'r awdurdod fod anghenion gofal a chefnogaeth gan yr oedolyn
  • unrhyw ofalwr lle ymddengys i'r awdurdod fod anghenion gofal gan y gofalwr.

Cysylltu â ni

Pan fyddwch yn cysylltu â ni am y tro cyntaf, neu pan fydd rhywun yn cysylltu â ni ar eich rhan, bydd aelod hyfforddedig o'n staff yn gofyn nifer o gwestiynau i chi i wybod mwy am eich sefyllfa a'r hyn sy'n bwysig i chi. Dyma gam cyntaf y broses asesu. I rai pobl dyma'r cyfan sydd ei angen arnynt.

Gall anghenion gofal cymdeithasol llawer o bobl gael eu diwallu gan wasanaethau a gweithgareddau a ddarperir yn y gymuned leol.  Gallwn roi gwybodaeth i chi am grwpiau neu sefydliadau a fyddai'n gallu eich helpu chi neu, os yw'n well gennych, gallwn gyflwyno cyfeiriad i sefydliad cefnogi ar eich rhan. Mae'r wybodaeth a'r cyngor cywir ar yr adeg gywir yn aml yn oedi angen pobl am wasanaethau gofal ffurfiol a gall atal yr angen yn gyfan gwbl.

Os ymddengys fod gennych anghenion gofal a chefnogaeth y tu hwnt i hyn, byddwn yn cynnig asesiad manylach i chi i ganfod y cymorth y mae ei angen arnoch a pha fath o gefnogaeth fyddai fwyaf addas i chi.  Mae'r asesiad hwn yn ein galluogi i ganfod a oes gennych anghenion sy'n gymwys am gefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mewn argyfwng, gallwn gymryd camau gweithredu ar frys i ddiwallu eich anghenion ar unwaith.

Gwneud cais am asesiad Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion - ffurflen ar-lein

Beth sy'n digwydd un ystod asesiad ar gyfer gofal a chefnogaeth?

Bydd aelod hyfforddedig o staff yn cael sgwrs gyda chi ac, os yn briodol, eich teulu ac unrhyw bobl berthnasol eraill er mwyn i ni ddeall eich sefyllfa'n well.

Sut rydym yn penderfynu pwy sy'n gymwys ar gyfer cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol

Ym mhob achos, anghenion yn hytrach na'r person, sy'n cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf cymhwysedd.

Eich cynllun gofal a chefnogaeth

Os yw'r asesiad yn nodi bod eich anghenion yn gymwys am gefnogaeth neu wasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwn yn siarad â chi am yr opsiynau cefnogaeth a all fod ar gael a llunio Cynllun Gofal a Chefnogaeth gyda chi.

Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion - ffurflen ar-lein

Gellir defnyddio'r ffurflen ar-lein hon i wneud cais am asesiad o angen gofal cymdeithasol i oedolion.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Awst 2021