Cwestiynau cyffredin am adnoddau dynol
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am adnoddau dynol (Rhyddid Gwybodaeth).
Contractau
Faint o staff sydd wedi cael eu cyflogi ar gontractau cyflenwi?
2023/24 - 340
2022/23 - 300*
2021/22 - 262
2020/21 - 269
2019/20 - 268
*Mae ffigur 2022/23 yn cynnwys hyd at 13 Mawrth 2023 yn unig (nid 31 Mawrth) oherwydd trosglwyddwyd y system cefn swyddfa
Achosion disgyblu
Beth oedd cyfanswm gweithwyr y cyngor a waharddwyd ar dâl llawn a'r cyfanswm y cawsant eu talu? Beth oedd y rheswm am y gwaharddiad ym mhob achos?
Mae pob gweithiwr sy'n cael ei wahardd yn derbyn tâl llawn.
Mae'r adrannau'n cynnwys | Mae'r rhesymau'n cynnwys | |
---|---|---|
2023/24 27 o weithwyr wedi'u gwahardd |
|
|
2022/23 39 o weithwyr wedi'u gwahardd |
|
|
2021/22 29 o weithwyr wedi'u gwahardd |
|
|
2020/21 15 o weithwyr wedi'u gwahardd |
|
|
2019/20 | I'w gadarnhau | I'w gadarnhau |
Faint o weithwyr a ddychwelodd ar ôl cael eu gwahardd?
2023/24 - dychwelodd 7 gweithiwr i'r gwaith gyda rhybudd, mae 10 achos yn parhau, diswyddwyd 5 gweithiwr, ymddiswyddodd 5 gweithiwr
2022/23 - dychwelodd 4 gweithiwr i'r gwaith gyda rhybudd, dychwelodd 8 gweithiwr i'r gwaith heb unrhyw gamau pellach, mae 16 achos yn parhau, diswyddwyd 5 gweithiwr, ymddiswyddodd 4 gweithiwr, daeth contractau 2 weithiwr i ben
2021/22 - dychwelodd 10 i'r gwaith heb rybudd, dychwelodd 1 i'r gwaith heb achos i'w ateb, diswyddwyd 5, ymddiswyddodd 2 (mae 11 ymchwiliad yn parhau)
2020/21 - 4 (mae 6 ymchwiliad cyfredol)
2019/20 - I'w gadarnhau
Dylid nodi nad yw gwaharddiad yn gosb ddisgyblu ac nid yw gweithwyr yn cael eu gwahardd fel mater o drefn. Mae angenrheidrwydd y gwaharddiad yn cael ei ystyried a'i adolygu'n ofalus iawn drwy gydol y broses er mwyn sicrhau bod angen parhaol am waharddiad. Ystyrir gwaharddiad fel dewis olaf bob amser ac mae'r mater yn cael ei drin â sensitifrwydd a doethineb. Pe na fyddai diben i'r gwaharddiad, ni fyddai gwahardd y gweithiwr yn briodol. Bydd gweithiwr sy'n cael ei wahardd yn derbyn ei gyflog arferol/cyfartalog. Bydd yn anarferol gwahardd gweithiwr nad yw'n ddigon iach i weithio ar yr adeg yr ystyrir y gwaharddiad. Mewn amgylchiadau pan fo gweithiwr yn cael ei wahardd pan fydd yn ennill llai na'r cyflog llawn (neu ddim cyflog) a nodir yn ei gontract cyflogaeth, bydd y taliad lefel is yn cael ei dalu yn ystod cyfnod y gwaharddiad.
Data Cydraddoldeb Gweithwyr
Adroddiad ynghylch y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Cyflogau
Datganiad polisi tâl 2023-24 (PDF) [669KB]
Pensiynau
Gellir dod o hyd i wybodaeth am bensiynau a buddsoddiadau cronfa yn: Adroddiadau a chyfrifon blynyddol (Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe) (Yn agor ffenestr newydd)
Polisi disgresiynau pensiwn cyflogwr (PDF) [371KB]
Recriwtio
Faint o aelodau staff a benodwyd yn ystod y cyfnodau canlynol?
2023/24 - 1,300
2022/23 - 1,582*
2021/22 - 1,573
2020/21 - 817
2019/20 - 865
*Mae ffigur 2022/23 yn cynnwys hyd at 13 Mawrth 2023 yn unig (nid 31 Mawrth) oherwydd trosglwyddwyd y system cefn swyddfa
Faint mae'r cyngor wedi'i wario ar hysbysebu swyddi gwag yn allanol yn ystod y cyfnodau canlynol?
2023/24 - £21,880 (yn cynnwys ysgolion)
2022/23 - £28,453.48 (yn cynnwys ysgolion)
2021/22 - £43,853.75
2020/21 - £39,548.15
2019/20 - £7,412.34
Absenoldeb salwch
Faint o ddiwrnodau a gollwyd oherwydd salwch staff fesul cyfwerth ag amser llawn (CALl)? Beth oedd y 3 phrif reswm a roddwyd ar gyfer absenoldeb salwch?
2023/24
117,439.24 - mae'r 3 phrif reswm yn cynnwys straen, gorbryder, profedigaeth
2022/23
116,628.3 - mae'r 3 phrif reswm yn cynnwys straen, coronafeirws, amrywiol
2021/22
116,913.6 - mae'r 3 phrif reswm yn cynnwys straen, coronafeirws, amrywiol
2020/21
82,955.87 - mae'r 3 phrif reswm yn cynnwys straen, coronafeirws, arhosiad yn yr ysbyty
2019/20
83,461.5 - mae'r 3 phrif reswm yn cynnwys straen, arhosiad yn yr ysbyty, anaf i'r cefn
*Mae ffigur 2022/23 yn cynnwys hyd at 13 Mawrth 2023 yn unig (nid 31 Mawrth) oherwydd trosglwyddwyd y system cefn swyddfa
Staff / uwch-staff
Faint o aelodau staff a gyflogir gan y cyngor?
Ar 31 Mawrth 2024 - cyfanswm o 11,180
- Staff nad ydynt yn gweithio mewn ysgolion - 6,271
- Staff mewn ysgolion - 4,909
Ar 31 Mawrth 2023 - cyfanswm o 11,666
- Staff nad ydynt yn gweithio mewn ysgolion - 6,519
- Staff mewn ysgolion - 5,147
Ar 31 Mawrth 2022 - cyfanswm o 11,397
- Staff nad ydynt yn gweithio mewn ysgolion - 6,291
- Staff mewn ysgolion - 5,106
Ar 31 Mawrth 2021 - cyfanswm o 10,937
- Staff nad ydynt yn gweithio mewn ysgolion - 6,045
- Staff mewn ysgolion - 4,892
Ar 31 Mawrth 2020 - cyfanswm o 10,954
- Staff nad ydynt yn gweithio mewn ysgolion - 6,062
- Staff mewn ysgolion - 4,892
Strwythur tîm arweinyddiaeth y cyngor: Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
Ysgolion
Faint o ddiwrnodau a gollwyd oherwydd salwch? Faint o aelodau staff sydd wedi ymddeol? Faint o aelodau staff sydd wedi'u diswyddo?
Blwyddyn | Diwrnodau a gollwyd oherwydd salwch | Nifer y staff sydd wedi ymddeol | Nifer y staff sydd wedi'u diswyddo |
---|---|---|---|
2023/24 | 38,438.57 | 61 | 8 |
2022/23 | 45,117.20 | 56 | 11 |
2021/22 | 40,122.85 | 43 | 8 |
2020/21 | 29,236.65 | 38 | 4 |
2019/20 | 29,211.53 | 39 | 20 |
Ar gyfer staff addysgu a staff atodol y mae'r ffigurau hyn (gan gynnwys cynorthwywyr dysgu a staff gweinyddol).
*Mae ffigur 2022/23 yn cynnwys hyd at 13 Mawrth 2023 yn unig (nid 31 Mawrth) oherwydd trosglwyddwyd y system cefn swyddfa