Toglo gwelededd dewislen symudol

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Gwybodaeth am strwythur y cyngor a sut y mae'n gweithredu.

Ein cyfansoddiad

Amlinella fframwaith cyfansoddiad y cyngor sut rydym yn gweithredu a sut gwneir penderfyniadau yn unol â'r prosesau sydd i'w dilyn er mwyn sicrhau bod penderfyniadau a gweithrediadau yn effeithiol, yn dryloyw ac yn atebol i bobl leol.

Cyfansoddiad y cyngor (modern.gov) (Yn agor ffenestr newydd)

Strwythur democrataidd y Cyngor (gwleidyddol)

Cyfansoddwyd y cyngor o 72 aelod wedi'u hethol (y cynghorwyr) o ystod o bleidiau gwleidyddol a nhw yw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, yn cytuno ar bolisïau ac yn blaenoriaethu gwariant ariannol y cyngor. Eich cynghorwyr (modern.gov) (Yn agor ffenestr newydd)

Etholir arweinydd y cyngor gan y cyngor ei hun, ac ef/hi sy'n arwain y cabinet.

Cyfansoddwyd y cabinet o'r arweinydd a 9 o gynghorwyr a apwyntir i'r cabinet.

Caiff yr arglwydd faer ei benodi yn flynyddol gan y cyngor.

Rheolaeth y Cyngor a Strwythur y Cyfarwyddiaethau (rheolaeth bob dydd)

Strwythur yr uwch-dîm rheoli (PDF) [113KB]

Canlyniadau'r etholiad diweddaraf

Gweld canlyniadau'r etholiad diweddaraf yn Abertawe.

Cynghorau cymuned a thref

Cynghorau cymuned a thref - manylion cyswllt (modern.gov) (Yn agor ffenestr newydd)

Gweithio gyda chyrff annibynnol

Er mwyn i'r cyngor allu cynnal partneriaethau effeithiol gyda chyrff annnibynnol sy'n effeithio ar wasanaethau'r cyngor, eistedda gynrychiolwyr y cyngor (fel arfer cynghorwyr etholedig) ar y pwyllgorau a fforymau gwahanol sy'n gyfrifol amdanynt. Cyrff allanol (modern.gov) (Yn agor ffenestr newydd)

Canolfan Gyswllt

Lleolir y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig ac mae'n darparu siop dan yr unto i breswylwyr sydd am gyflawni sawl tasg wahanol, yn cynnwys talu am Dreth y Cyngor. Pan nad yw cyswllt personol yn angenrheidiol, darparwn nifer helaeth o wasanaethau ar-lein.

Cwestiynau cyffredin am adnoddau dynol

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am adnoddau dynol (Rhyddid Gwybodaeth).
Close Dewis iaith