Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am anifeiliaid gwyllt peryglus

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am anifeiliaid gwyllt peryglus.

Rhoddir trwyddedau anifeiliaid gwyllt peryglus yn unol â Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976. 

Mae 1 drwydded ar waith ar hyn o bryd yn 2024 (ym mis Mai 2024)

2023: rhoddwyd 1 drwydded
2022: rhoddwyd 1 drwydded
2021: rhoddwyd 1 drwydded

Pa mor aml y mae angen iddynt adnewyddu eu trwydded?

Rhaid adnewyddu'r trwyddedau bob 2 blynedd.

Pwy sy'n gorfodi'r Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus yng Nghyngor Abertawe?

Y Gwasanaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd - Is-adran Trwyddedu Anifeiliaid

Faint o anifeiliaid gwyllt peryglus sydd wedi cael eu hatafaelu ers cyflwyno'r ddeddf?

Dim.

Beth sy'n digwydd os bydd gan aelod o'r cyhoedd bryder ynghylch anifail gwyllt peryglus trwyddedig?

Os ydych yn pryderu am arferion anifail gwyllt peryglus trwyddedig neu'r amodau y cedwir yr anifeiliaid ynddynt, cysylltwch â'r isadran Trwyddedu Anifeiliaid yn Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk, gan roi cynifer o fanylion â phosib am eich pryder. Bydd swyddog yn cysylltu â chi, ac os oes angen gallwch egluro unrhyw bwyntiau ychwanegol wrtho.

Ni roddir trwydded os bydd gan rywun unrhyw euogfarnau sy'n berthnasol i unrhyw droseddau lles anifeiliaid.

Rhagor o wybodaeth: Anifeiliaid gwyllt peryglus